Part of the debate – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Wel, yn wir—pwynt da.
Mae'n rhaid inni fod yn gryf yn wyneb eithafwyr. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle y gwerthfawrogir pobl o bob hil, ffydd a lliw am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Mae pob un ohonom yn awyddus i helpu i greu gwlad heddychlon a chytûn, lle y gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu.
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fel lle bywiog, croesawgar a chydlynus i fyw ac i weithio—gwlad y gallwn fod yn falch ohoni, sy'n edrych tuag allan a lle mae pobl o bob cefndir yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae'r weledigaeth hon yn sail i'n cynllun newydd, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches', sy'n nodi ymrwymiadau trawslywodraethol i ddarparu cyfle cyfartal, lleihau gwahaniaethu a hybu cysylltiadau da ar gyfer pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru.
Dangosodd pob awdurdod lleol yng Nghymru arweinyddiaeth wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid o Syria drwy gytuno i adsefydlu teuluoedd yn eu hardaloedd. Ymwelodd dirprwyaeth o'r Cenhedloedd Unedig â ni ar ôl y cyfnod cyntaf o adsefydlu, a chreodd y croeso a roddwyd gan gymunedau Cymru gryn argraff arnynt. Mae unigolion mewn cymunedau yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy ddod at ei gilydd a ffurfio sefydliadau nawdd cymunedol, sydd wedi gallu croesawu teuluoedd o ffoaduriaid heb fawr iawn o gymorth gan y Llywodraeth. Un enghraifft wych o'r awydd i gyfrannu at y cymunedau sydd wedi eu croesawu oedd ethol ffoadur o Syria i'r Senedd Ieuenctid yr wythnos diwethaf o fy etholaeth i. Rwy'n falch iawn o hynny, Ddirprwy Lywydd. Mae hyn yn dangos y gall arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb ymddangos yn unrhyw le, ond mae profiadau'r rheini sy'n ymfudo i Gymru yn parhau i fod yn gymysg iawn, hyd yn oed pan fyddant wedi bod yma ers blynyddoedd neu ddegawdau lawer.
Yn gynharach eleni, datgelodd sgandal drasig Windrush enghreifftiau o unigolion yn cael eu hanghofio wrth i bolisïau gael eu datblygu. Mae miloedd o bobl a dinasyddion Prydain wedi wynebu statws mewnfudo ansicr, er gwaethaf sicrwydd blaenorol eu bod yn rhan o Brydain. Cafodd rhai eu hallgludo ac mae eraill wedi methu cael gofal iechyd, wedi colli eu swyddi neu wedi methu dychwelyd i Brydain. Maent yn dal i ymchwilio i hyd a lled y sgandal yn llawn, ond roedd dicter y cyhoedd, gan gynnwys yng Nghymru, yn dangos ymrwymiad y cyhoedd i degwch. Hoffwn obeithio na fyddai polisi o'r fath byth yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, ond mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus a chryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pobl yn y canol wrth inni lunio ein polisïau.
Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r ansicrwydd sy'n effeithio ar ein cymdeithas o ganlyniad i Brexit. Nid oes unrhyw un yn teimlo hyn gymaint â'r 80,000 o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r nifer lai o ddinasyddion Cymru sy'n byw yn yr UE ar hyn o bryd. Mae gennym gyfrifoldeb i'r aelodau hyn o'n cymuned. Mae angen inni ddefnyddio pob arf sydd gennym dros y misoedd nesaf i sicrhau bod yr unigolion hyn yn hyderus ein bod yn gweld gwerth eu cyfraniad i'n heconomi a'n cymuned, eu bod yn cael cymorth i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac nad ydynt yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn y dyfodol.
Y mis diwethaf, roedd hi'n ugain mlynedd ers cyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998. I nodi hyn, gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol roi darlith goffa Eileen Illtyd ar hawliau dynol 2018, 'Deddf Hawliau Dynol i Gymru?' Yn ei ddarlith, y cefais y fraint o'i mynychu, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod yn bosibl iawn na all dull tameidiog o ddiogelu hawliau dynol sicrhau'r un manteision ag y gallai dull deinamig a chynhwysfawr ei gynnig.
Hoffwn ailadrodd ein bod yn ymwybodol iawn o'r cwestiynau hyn, ac wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd o gryfhau hawliau ac amddiffyniadau yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio ein dadl yn ddiweddar ar yr opsiwn i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Ers hynny, rwyf wedi bod yn myfyrio ar y materion hyn, gan ystyried galwadau gan amryw o randdeiliaid ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng nghyd-destun Brexit, ac i wneud mwy i ymgorffori cytuniadau rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Yn fy nhrafodaethau diweddar â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ymhlith eraill, rwyf wedi dweud yn glir nad yw'n fater o ba un a fyddwn yn gwneud rhywbeth, ond yn hytrach, pa gamau a fydd fwyaf effeithiol.
O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried effaith bosibl ystod o gamau, gan gynnwys deddfwriaeth newydd i roi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, a chryfhau rheoliadau. Cwestiwn hollbwysig yw sut y byddai camau o'r fath yn cysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y gwaith hwn wedi'i gysylltu â cham 2 yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. I'w symud ymlaen, byddwn yn cynnal seminar yn gynnar yn y flwyddyn newydd i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a chwmpasu’r gwaith y bydd ei angen yn fwy manwl.
Yn wyneb newid heb ei debyg o'r blaen, mae'n rhaid inni fod, ac fe fyddwn, yn rhagweithiol, yn uchelgeisiol, ac yn flaengar, a pharhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle modern a chynhwysol i fyw ac i weithio ynddo. Ein nod clir, Ddirprwy Lywydd, yw atgyfnerthu ac adeiladu ar yr hawliau hyn ar gyfer y dyfodol. Diolch.