Part of the debate – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob un ohonom bob dydd. Mae dydd Llun 10 Rhagfyr, Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, yn nodi 70 mlynedd ers i gynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol. Roedd hon yn ddogfen hanfodol i ddiogelu rhag ailadrodd yr erchyllterau a gyflawnwyd yn yr ail ryfel byd. Roedd yn datgan yr hawliau diymwad y mae gan bawb hawl gynhenid iddynt fel bodau dynol, waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Mae ymagwedd arbennig tuag at hawliau dynol wedi'i phlethu i mewn i setliad datganoli Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n unol â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Adlewyrchir hyn yn ein cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn ogystal â'i rhwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys saith confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan y DU fel y wladwriaeth sy'n barti. Mewn geiriau eraill, mae hawliau dynol yn rhan o'n DNA. Mae'r egwyddorion a gynhwysir yn y datganiad o hawliau dynol yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1948.
Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, lle mae cyni'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd leiaf abl i'w oddef, gan effeithio'n uniongyrchol ar eu hawliau dynol. Mae unigolion a theuluoedd yn colli eu cartrefi ac yn mynd heb fwyd. Gwyddom yn rhy dda fod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Ar ôl ei ymweliad â'r DU, dywedodd yr Athro Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, mai Llywodraeth y DU a'i pholisïau cyni a diwygio lles sy'n gyfrifol am hyn. Dywedodd mai
Ychydig iawn o fannau a geir mewn llywodraeth lle mae'r datblygiadau hyn yn fwy amlwg nag yn y system budd-daliadau. Rydym yn gweld y wladwriaeth les a gyflwynwyd ym Mhrydain wedi'r rhyfel yn diflannu'n raddol tu ôl i wefan ac algorithm. Yn ei lle, mae gwladwriaeth les ddigidol yn dod i'r amlwg. Bydd yr effaith ar hawliau dynol y bobl fwyaf agored i niwed yn y DU yn aruthrol.
Soniodd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Effaith diwygio lles a rhaglenni o fudd-dâl i waith', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, am effaith drychinebus bosibl diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Roedd yn rhagweld y bydd bron i hanner holl aelwydydd Cymru ar eu colled yn sgil y diwygiadau ac mai pobl ar incwm isel, gan gynnwys menywod, grwpiau ethnig penodol ac aelwydydd â phlant fydd yn teimlo'r effaith fwyaf. Canfu adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach? (2018)' y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd fod y grwpiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llithro hyd yn oed ymhellach ar ôl gweddill y gymdeithas.
Yn fyd-eang, mae llawer o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yn cael eu tanseilio, ac mewn rhai gwledydd, cânt eu hanwybyddu'n llwyr. Mae naratifau ymrannol wedi tyfu'n bla ar ein trafodaeth wleidyddol, ac wedi eu sbarduno gan bobl sydd i'w gweld yn benderfynol o greu tensiynau rhwng cymunedau. Mae cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig, yn llawer rhy aml yn hafan i hiliaeth a senoffobia, gydag unigolion yn defnyddio'r cysyniad o ryddid barn fel amddiffyniad, gyda disgwyliad y gallant ysgrifennu beth bynnag a fynnant heb ganlyniadau.
Mae gan Gymru hanes hir o drugaredd, goddefgarwch a pharch a chroeso i eraill. Gwn fod gwlad sy'n rhoi gwerth ar amrywiaeth ac sy'n galluogi ein cymunedau amrywiol i fod yn gyfartal yn gryfach o ganlyniad.
Y rhai mwyaf agored i niwed sydd bob amser yn colli eu hawliau yn gyntaf—pobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol + yn ogystal â phlant, rhieni sengl a phobl anabl. Mae'n gwbl annerbyniol, yma yn y DU yn yr unfed ganrif ar hugain, fod un o bob pump o fenywod yn dioddef trais rhywiol, fod un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig a bod dwy fenyw yr wythnos yn marw o ganlyniad i drais dan law eu partneriaid agos iawn neu gyn-bartneriaid. Mae gennym hefyd fylchau cyflog ystyfnig a pharhaus rhwng y rhywiau yng Nghymru, a rhy ychydig o lawer o fenywod mewn swyddi uwch.
Mae ein hymagwedd groestoriadol tuag at gam 2 o'r adolygiad o gydraddoldeb rhywiol yn cynnwys gweithio ar draws gwahanol feysydd cydraddoldeb, gan gynnwys hil, anabledd ac oedran, gyda'r nod o sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl. Rydym yn cydnabod bod menywod a merched sy'n profi sawl ffurf ar wahaniaethu a mathau croestoriadol o wahaniaethu yn aml yn cael eu heithrio rhag cynnydd. Cyn hir, bydd gennym fap clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
Gan droi at anabledd, gadewch imi ddechrau drwy dynnu sylw at y bwlch cyflogaeth anabledd. Yng Nghymru ar hyn o bryd, 45 y cant yn unig o bobl anabl o oedran gweithio sydd mewn gwaith, o gymharu ag 80 y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Un enghraifft yn unig yw hon, er ei bod yn un bwysig iawn, o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl. Mae ein fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol', yn seiliedig ar y model cymdeithasol o anabledd, ac yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd. Mae'n rhaid i bobl anabl gael mynediad at yr un cyfleoedd â phawb arall.
Mae hil yn fater hollbwysig arall. Mae 75 y cant o droseddau casineb yng Nghymru yn ymwneud â hil neu grefydd—mae hynny'n adlewyrchu miloedd o enghreifftiau ffiaidd o gam-drin geiriol, corfforol ac ar-lein tuag at bobl ddiniwed bob dydd oherwydd eu hymddangosiad, a gwyddom na roddir gwybod am lawer o ddigwyddiadau o'r fath. Nid yw ein grwpiau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn ein cyfryngau, mewn gwleidyddiaeth na'n gweithleoedd. Rydym yn gweithio'n galed i newid hyn. Mae ein prosiectau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn hanfodol i sicrhau bod Cymru'n wlad gynhwysol i bawb ac yn groesawgar, fel y gwyddom y gall fod ac fel y dylai fod.
Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymhlith y bobl sy'n cael eu hymyleiddio fwyaf yn ein cymdeithas. Maent yn wynebu gwahaniaethu, anghydraddoldeb a diffyg cyfleoedd, ac mae hynny'n hyrwyddo'r safbwyntiau negyddol a'r camsyniadau sy'n llenwi'r naratif o'u cwmpas. Dangosodd gwaith ymchwil diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod 44 y cant o'r cyhoedd yn gyffredinol yn cyfaddef yn agored eu bod yn elyniaethus tuag at y grwpiau hyn. Fel enghraifft o hyn, roedd sylwadau o dan erthygl ar-lein ddiweddar ar Wales Online am angladd cymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd yn cynnwys galwadau i symud y trigolion i Auschwitz a'u llosgi allan o'u gwersyll. Postiodd un unigolyn ddarlun o filwr Natsïaidd gyda'r pennawd, 'Ewch i nôl y nwy.' Parhaodd y sylwadau hyn, nad ydynt yn achos unigryw, yn weladwy am sawl diwrnod, gan achosi cryn drallod i'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n rhaid inni ddweud yn glir: ni allwn ac ni fyddwn yn goddef unrhyw weithredoedd neu ddatganiadau o'r fath sy'n ceisio annog safbwyntiau mor eithafol a gwrthun.