Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Mae'n bwysig, heddiw o bob diwrnod, ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cydnabod y Diwrnod Hawliau Dynol Rhyngwladol, sef dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018. Mae 70 o flynyddoedd wedi bod ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac roedd datblygiad cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn un o'r rhesymau sylfaenol pam y penderfynais gamu i'r byd gwleidyddol, a gwn fod hynny'n wir am eraill yn y Siambr hon, a dyna pam y mae datblygu a chynnal cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal yn sylfaen i bopeth rwy'n ei wneud fel Aelod Cynulliad dros Islwyn. Yn wir, roedd ymladd ideoleg yr asgell dde eithafol a BNP yn hollbwysig i fy nhaith bersonol. Llywodraeth Lafur y DU a lofnododd y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn wreiddiol a Llywodraeth Lafur y DU a ymgorfforodd y confensiwn hwnnw yn ein cyfraith, drwy basio Deddf Hawliau Dynol 1998.
Ond mae'n ddiwrnod trist, fel y mae eraill wedi dweud heddiw, pan fo arweinydd grŵp UKIP yn gwenu ac yn annog cyn-arweinydd Cynghrair Amddiffyn Lloegr a chyn-aelod o'r BNP mewn rali yn ddiweddar—ac rwy'n credu mai Stephen Yaxley-Lennon yw ei enw iawn—sydd bellach yn cynghori UKIP.
Y llynedd, anerchodd arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn, y Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Yn yr anerchiad hwnnw, amlinellodd Jeremy Corbyn y problemau sy'n wynebu ein dynoliaeth gyffredin. Dywedodd, a dyfynnaf, fod y crynodiad cynyddol o gyfoeth a grym anatebol yn nwylo grŵp pitw o elitwyr corfforaethol, system y mae llawer yn ei galw yn 'neo-ryddfrydiaeth', wedi arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb, ymyleiddio, ansicrwydd a dicter ar draws y byd. Rydym yn gwybod bod heriau fel y rhain yn peryglu datblygiad cyfiawnder cymdeithasol, ac yn awr fwy nag erioed, rhaid i ni wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol. Felly, mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y ciwiau cynyddol mewn banciau bwyd ledled y DU a'r cynnydd yn nifer y bobl ddigartref a'r bobl sy'n cael eu troi allan o'u cartrefi. Mae'n ddigalon gweld, bob dydd, y cosbau parhaus mewn arian ac amser a orfodir drwy'r credyd cynhwysol gwarthus—ein hawlwyr mwyaf agored i niwed sy'n dioddef—y toriadau i fudd-daliadau plant, y toriadau i drothwyon credyd treth, llanastr yr asesiadau taliadau annibynnol personol a'r ffaith bod rhwydwaith cymorth lles y DU ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed wedi cael ei ddiddymu'n strategol, er gwaethaf camau strategol a phellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru i liniaru'r sefyllfa. Mae adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar dlodi a hawliau dynol ym Mhrydain yn dilyn adroddiad damniol arall ar hawliau a'r modd y mae'r DU yn trin ei phobl anabl. Ni ddylai unrhyw un yma fod yn falch o hynny. Mae'n datgan bod y modd y caiff system les polisi cymdeithasol y DU ei chymhwyso yn sbarduno tlodi, yn creu digartrefedd, yn dirymu menywod, pobl anabl a phlant, ac yn torri hawliau dynol yn sylfaenol, ac ymhellach, fod yr ideoleg beryglus sy'n llywio credyd cynhwysol, sy'n rhoi adnoddau ariannol yn nwylo'r penteulu gwrywaidd, yn aml yn sbarduno cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn wreig-gasaol.
Felly, wrth i ni ystyried agenda hawliau dynol y DU a'n lle ni yn y byd, a goblygiadau beth bynnag yw Brexit, ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, mae'n bwysig ein bod i gyd, gobeithio, yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr hawliau dynol sydd gennym yn awr er mwyn eu diogelu ar gyfer y dyfodol a'u hymgorffori yn ein cyfansoddiad ar gyfer dyfodol hawliau ein plant yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Diolch.