Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau am eu sylwadau a'u syniadau ar y pen-blwydd pwysig hwn. Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru yn gadarn yn erbyn pob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde. Yn 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol', rydym wedi nodi ein huchelgais i weithio gyda chymunedau, y sector gwirfoddol a gwasanaethau lleol i wrthsefyll bygythiad eithafiaeth a throseddau casineb yn ein cymunedau.
Ym mis Hydref, cefais y fraint o gyfarfod â Sara Khan, y comisiynydd arweiniol ar gyfer gwrthsefyll eithafiaeth. Buom yn trafod rôl ddatblygol y comisiwn a sut y gall gefnogi ein huchelgais yng Nghymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth asgell dde—y math mwyaf cyffredin o eithafiaeth yng Nghymru. Tra oedd yng Nghymru, cyfarfu'r comisiynydd â nifer o'n rhanddeiliaid fel rhan o'n gwaith casglu tystiolaeth. Bydd hyn yn helpu i lywio dealltwriaeth well o eithafiaeth a sut y gellir ei wrthsefyll.
Mae gennym fecanwaith effeithiol ar gyfer ymgysylltu ar lefel uwch drwy CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Cadeirir y bwrdd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac uned eithafiaeth a gwrthderfysgaeth Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cadeiryddion ein byrddau rhanbarthol yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr allweddol o sefydliadau partner allweddol eraill. Bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y bwrdd wedi comisiynu adroddiad ar eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Byddant yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y comisiwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. Er gwaethaf y gwaith helaeth ar draws Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid, rydym yn gwybod nad oes lle i hunanfodlonrwydd. Mae'r straeon diweddar yn y cyfryngau am eithafiaeth asgell dde ar garreg ein drws yn dangos yr angen i barhau i fod yn effro i'r bygythiad, ac rwy'n credu bod yr holl Aelodau wedi crybwyll y bygythiad hwnnw yma heddiw. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a thrwy ein strwythurau sefydledig i ddeall y sefyllfa'n well a mynd i'r afael â'r risgiau hyn.
Gan droi at welliant 2, er ein bod yn cwestiynu i ba raddau y mae'n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw gamau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, i amddiffyn rhyddid o ran crefydd neu gred, i roi diwedd ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, ac i hyrwyddo democratiaeth. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 2.
Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gadarn i gryfhau ei hymdrechion yn y meysydd hyn oll, gan ei bod yn amlwg fod llawer mwy i'w wneud i brofi ei bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth y DU. O ran y materion a godwyd, mae Leanne Wood wedi dweud sawl gwaith fy mod—. Wel, mewn gwirionedd, rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth y mae wedi'i ddweud, ond rydym yn gwneud cryn dipyn eisoes, ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniad y bwrdd a'r ymateb a gomisiynodd i eithafiaeth asgell dde. Mae llawer o'r Aelodau wedi sôn am hynny heddiw, felly byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth lawn ar hynny wrth iddo ddatblygu.
Roeddwn yn falch iawn o glywed cefnogaeth frwd Darren Millar a Mark Isherwood i hawliau dynol, er gwaethaf y ffaith bod diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ymddangos mewn dwy o Areithiau'r Frenhines. Credaf ei fod yn dangos bod gwleidyddiaeth yn wahanol yma yng Nghymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth honno. O na bai Llywodraeth y DU yn mynd mor bell ag y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gallu ei wneud, byddem i gyd mewn sefyllfa well o lawer.
Soniodd llawer o'r Aelodau—Julie Morgan, Helen Mary Jones, Joyce Watson, Caroline Jones a Rhianon Passmore—am yr hyn sy'n digwydd pan fo hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu, ac nid wyf yn credu y gallwn wneud yn well na dyfynnu araith y Cwnsler Cyffredinol yn narlith goffa Eileen Illtyd. Dywedodd y dylid gweld hawliau dynol fel pethau ymarferol, sylfaenol, ac arferol hyd yn oed, yn hytrach na phethau sy'n cyfyngu, yn cael eu gorfodi, neu sy'n estron. Rydym angen ymateb sy'n portreadu hawliau dynol fel dulliau arferol o sicrhau cyfiawnder mewn
'lleoedd bach, yn agos at adref', nid datganiadau eangfrydig mewn neuaddau marmor pell.
Credaf fod yr holl Aelodau heddiw, Ddirprwy Lywydd, wedi tanlinellu'r angen i ni ddeall bod hawliau dynol yn hawliau sylfaenol, yn anghenion sylfaenol sydd gan bawb ohonom, nid pethau i'w defnyddio fel arf, ond yn hytrach fel tarian ac fel hawl i urddas a chyfrifoldeb. Rwyf mor falch ein bod wedi cael y ddadl hon heddiw, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am fod mor barod i gymryd rhan ynddi. Diolch.