Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y cyflog byw go iawn yn dilyn yr Wythnos Cyflog Byw fis diwethaf. Rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r ddadl Aelod unigol hon heddiw. Mae'r cyflog byw go iawn yn seiliedig ar y gost o fyw ac fe'i telir yn wirfoddol gan dros 4,700 o gyflogwr yn y DU sy'n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog teg. Mae'r cyflog byw go iawn yn wahanol i gyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU, sy'n seiliedig ar darged i gyrraedd 60 y cant o'r enillion canolrifol erbyn 2020, ac ni chaiff ei gyfrifo yn ôl beth sydd ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Ond mae cyflog byw go iawn yn ddigon i dalu costau byw, nid isafswm y Llywodraeth yn unig.
Flwyddyn yn ôl, ymunais â grŵp arweiniad ar y cyflog byw go iawn yma yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae'r grŵp hwn yn cysylltu â'r Living Wage Foundation, sydd wrth wraidd yr ymgyrch cyflog byw go iawn yng Nghymru. Mae ein grŵp yng Nghymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gynnwys Guy Leach, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni adeiladu Cymreig Knox & Wells Limited, a Mari Arthur, prif weithredwr Cynnal Cymru, sy'n gyfrifol am achredu cyflogwyr cyflog byw go iawn yng Nghymru.
Rwyf wedi manteisio ar y cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf i godi cwestiynau gydag aelodau o'r Cabinet ynghylch cynnydd a chyflawniad y cyflog byw go iawn yng Nghymru fel ffactor allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith a chyflogau isel er mwyn bod yn gymdeithas decach ac economi fwy cynhyrchiol. Yn fy nghwestiynau i'r Gweinidogion, rwyf wedi ceisio nodi ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru annog cyflogwyr yng Nghymru i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn. Dengys y ffigurau diweddaraf fod 174 cyflogwr yng Nghymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn talu'r cyflog byw go iawn i'w gweithwyr, sef £9 yr awr, o'i gymharu â chyflog byw cenedlaethol Llywodraeth y DU o £7.83 yr awr.
Arweiniodd Llywodraeth Cymru y ffordd yn y sector cyhoeddus ac mae wedi bod yn gyflogwr cyflog byw achrededig i wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ers 2015. Sicrhaodd Mark Drakeford y cyflog byw go iawn ar gyfer gweithlu GIG Cymru o ganlyniad i negodiadau yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae GIG Cymru wedi talu'r cyflog byw go iawn ers mis Ionawr 2015. Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i'r cyflog byw go iawn, gyda Chyngor Caerdydd yn symud tuag at fod yn ddinas cyflog byw go iawn, gan gynnwys cyflogwyr cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â hwy eu hunain fel awdurdod. Roeddwn yn falch iawn o fynychu lansiad yr Wythnos Cyflog Byw ym mis Tachwedd gyda'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi'r gyfradd wedi'i diweddaru yn y Bigmoose Coffee Company yng Nghaerdydd, elusen sy'n darparu gwaith a chymorth i bobl ddigartref yn y ddinas ac sy'n talu'r cyflog byw go iawn.
Rwyf hefyd yn falch o'r cynnydd ym Mro Morgannwg, lle bûm yn ymgyrchu fel Aelod Cynulliad ers blynyddoedd lawer o blaid sicrhau'r cyflog byw go iawn ar gyfer gweithwyr a phobl sy'n gweithio'n uniongyrchol i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n falch fod Cyngor Bro Morgannwg bellach ar fin dechrau talu'r cyflog byw go iawn i'r rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol iddynt, fel bod modd i tua 4,000 o staff elwa ar draws adrannau cyngor ac ysgolion o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam i'w groesawu'n fawr. Yn wir, mae Cyngor Tref y Barri hefyd yn talu'r cyflog byw go iawn yn fy etholaeth, fel y mae llawer o gyflogwyr y trydydd sector a'r sector preifat yn ei wneud.
Rwyf hefyd yn falch fod rheolwyr Maes Awyr Caerdydd wedi cytuno i dalu'r cyflog byw go iawn i'w holl weithwyr o fis Ebrill nesaf. Mae'r cynnig hwn heddiw wedi ei gyfeirio ar draws Llywodraeth Cymru i gynnwys holl aelodau'r Cabinet sydd â rhywfaint o ddylanwad dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, yr economi a'r seilwaith, cyllid drwy'r contract economaidd a'r cod moesegol, addysg ar gyfer addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac wrth gwrs, cydraddoldebau.
Bydd mynd i'r afael â chyflogau isel yn effeithio'n uniongyrchol ac yn gadarnhaol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflogau pobl anabl a phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy'n aml yn gyflogau annheg. Dywedodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod eu bod eisiau i fusnesau ymrwymo i dalu cyflog byw (fel y'i cyfrifir gan y Living Wage Foundation) i staff a hwyluso arferion gweithio hyblyg.
Ac yn ddiweddar cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad ar amgylchiadau ariannol pobl anabl, gan dynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog anabledd yn parhau, gyda phobl anabl yn ennill llai fesul awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
Rwyf wedi cyfeirio yn y cynnig at y gwaith a wnaed gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar brofiad cyflogwyr cyflog byw ar draws y DU. Canfyddiad canolog yr adroddiad yw bod y cyflog byw go iawn wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r rhan fwyaf o gyflogwyr, i gefnogi eu honiad fod achos busnes dros ddod yn gyflogwr cyflog byw go iawn. Yn wir, mae 93 y cant o gyflogwyr yn teimlo eu bod wedi elwa o'r achrediad—gwella enw da yn gwella'u brandiau cyflogwyr, gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a chleientiaid ac uwchraddio rheoli adnoddau dynol. Ac yn bwysig, o ran cryfder ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, nodir mynediad at gontractau neu gyllid fel canlyniad cadarnhaol.
Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn symud i newid yr ymrwymiadau a ddisgwylir gan gyflogwyr sy'n cael grantiau a chontractau o 'ystyried' talu o leiaf y cyflog byw go iawn i ymrwymiad gwirioneddol gydag amserlen i gyflawni'r canlyniad hwn. Bydd hyn yn galw am gymorth ac adnoddau i allu ei gyflawni o fewn Llywodraeth Cymru ac asiantaethau allanol. Yn yr Alban, rwy'n credu y gallwn weld y gwersi a ddysgwyd am effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn.
Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru a'n Prif Weinidog newydd gynnwys y cyflog byw go iawn yn flaenoriaeth allweddol ym mriff y Comisiwn Gwaith Teg ac i arwain grŵp cydgysylltu trawslywodraethol i osod cerrig milltir i Lywodraeth Cymru weithio tuag at eu cyrraedd. Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau'r Aelodau.