Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jane Hutt am gyflwyno'r ddadl a'r cynnig pwysig hwn y prynhawn yma, yn amserol iawn, rwy'n credu. Mae Jane wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros lawer iawn o flynyddoedd o blaid mwy o hawliau i weithwyr yng Nghymru, o fewn y Llywodraeth ac oddi allan, mae'n deg dweud, ac unwaith eto heddiw, mae'n gwneud achos cryf a grymus dros Gymru cyflog byw, gyda llawer o'r Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau heddiw sydd wedi cyfrannu at y ddadl, y drafodaeth?
Credaf ei bod hi'n deg dweud fod digon o dystiolaeth yn bodoli bellach i ddangos bod cymdeithasau mwy cyfartal yn bendant iawn yn gymdeithasau hapusach, yn gymdeithasau mwy dedwydd, a bod cyflogwyr sy'n talu cyflog da yn tueddu i gyflawni cyfraddau cynhyrchiant uwch. Ac o fewn yr economi sylfaenol, fel y clywsom, mae yna broblem arbennig gyda chyflogau isel, ond hefyd, yn yr economi sylfaenol y gwelwn gyfran uwch o fenywod mewn gwaith, sydd, yn ei dro, yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd gennym yn ein cymdeithas gwaetha'r modd, a rhaid inni fynd i'r afael â hynny. A dyna pam y canolbwyntiwn fwy nag erioed ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwell cyflogau a gwaith o ansawdd uwch yn yr economi sylfaenol. Dyna pam y mae gwaith tasglu'r Cymoedd wedi canolbwyntio'n fawr ar rôl yr economi sylfaenol, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma, gan fod gwneud Cymru'n genedl fwy cyfartal, yn genedl lle mae gan bawb fynediad at waith teg sy'n talu cyflog byw, a lle y gall yr holl weithwyr ddatblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd, yn un o amcanion sylfaenol y Llywodraeth hon.
Dyna pam ein bod hefyd wedi datblygu'r cynllun gweithredu economaidd ac wedi gosod y contract economaidd newydd yn ganolog iddo. Ac rwy'n credu'n bendant mai dyma'r cyfle gorau posibl i ni i weithredu polisi mor radical, gyda diweithdra ac anweithgarwch economaidd ar lefelau is nag erioed. Pe bai diweithdra gryn dipyn yn uwch, byddai'n llawer anos gweithredu'r contract economaidd sy'n gofyn cymaint mwy gan gyflogwyr. Ac mae'r contract yn nodi disgwyliad clir iawn y dylai busnesau ddangos eu hymrwymiad i waith teg yn amlwg os ydynt yn dymuno cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Lle mae sefydliadau'n cael ac yn gwario arian cyhoeddus, credaf ei bod hi'n iawn ein bod yn disgwyl iddynt ymrwymo i'n cod ymarfer cyflogaeth foesegol—