7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyflog Byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 12 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:27, 12 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i grynhoi yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n croesawu cyfraniad pawb. Roedd pob cyfraniad yn deillio o fwriad da ac yn cefnogi'r syniad, oherwydd mae'n gysyniad sy'n llifo mor rhwydd oddi ar y tafod wrth sôn am gyflogau byw. Mae'r realiti yn wahanol braidd, oherwydd lle rwy'n anghytuno yw nad wyf yn credu mewn gwirionedd ein bod wedi dod yn bell iawn. Credaf yn wir ein bod wedi bod yn mynd tuag at yn ôl.

Un agwedd yw'r cyflog byw. Mae'n llawer gwell gennyf y cysyniad o Gymru fel cenedl gwaith teg yn hytrach na chenedl cyflog byw, am mai un agwedd ar yr elfennau sy'n rhoi'r gallu i gael safon byw gweddus yw cyflogau. Yr egwyddor sylfaenol y dylai rhywun sy'n gweithio wythnos lawn o waith allu byw bywyd o ansawdd gweddus, safon weddus, gallu mynd ar wyliau, gallu mwynhau rhai o'r pethau cymdeithasol a diwylliannol yn eu bywydau—yn amlwg nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd.

Pan siaradodd Mark Isherwood, gwn fod ei fwriad yn dda. Gwn ei fod yn ei gredu o'i galon. Ond a dweud y gwir, y realiti yw nad yw'r Blaid Geidwadol erioed wedi credu yn y cysyniad o gyflog byw go iawn. Y tric creulonaf oll oedd galw'r isafswm cyflog yn gyflog byw pan nad oedd yn gyflog byw mewn gwirionedd, felly roedd yn rhaid inni ddechrau cymryd rhan yn y drafodaeth honno i'w egluro a dweud, 'Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn awr yw cyflog byw go iawn, hynny yw, cyflog sy'n eich galluogi i fyw'n iawn.'

Pan edrychwch ar yr hanes, pan edrychwch ar yr holl enghreifftiau o'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar, y llif o ddeddfwriaeth sydd wedi gwahaniaethu ac wedi cyfyngu ar undebau llafur, lle gwyddom mai prif achos y cyfyngu ar ddosbarthu cyfoeth ymhlith pobl sy'n gweithio oedd y gostyngiad mewn cydfargeinio—gallwch weld y data hwnnw ledled Ewrop. Po leiaf o gydfargeinio a geir, y mwyaf o dlodi sy'n bodoli, a'r mwyaf o anghydraddoldeb mewn gwirionedd.

Gadewch i ni edrych hefyd ar beth yw agenda'r Torïaid wedi bod ar bob agwedd ar ddeddfwriaeth lle rydym wedi sôn am ansawdd cyflogau ac ansawdd gwaith. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i amddiffyn gweithwyr fferm. Roeddent yn gwrthwynebu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017. Roeddent yn gwrthwynebu gweithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar lefel y DU. Roeddent yn gwrthwynebu pennod gymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd. Roeddent yn gwrthwynebu cynnwys y siarter Ewropeaidd o hawliau sylfaenol. Ar lefel y DU, maent wedi gwrthwynebu ymgyrch dros orfodi'r isafswm cyflog. Yng Nghymru mae gennym 19,000 bobl—amcangyfrifedig—nad ydynt yn cael yr isafswm cyflog hyd yn oed. Ble mae'r 19,000 o erlyniadau i orfodi hynny mewn gwirionedd? Ac maent hefyd wedi cyflwyno, ac yna wedi gwrthwynebu, eu polisi eu hunain o ddod â gweithwyr ar fyrddau cyfarwyddwyr cwmnïau mawr er mwyn i weithwyr gael lleisio barn.

Byddai'n well o lawer gennyf weld symud tuag at ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol o beth yw gwaith gweddus, a dyma'r diffiniad:

Mae gwaith gweddus yn crynhoi dyheadau pobl yn eu bywydau gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n gynhyrchiol ac yn sicrhau incwm teg, diogelwch yn y gweithle ac amddiffyniad cymdeithasol i deuluoedd, gwell rhagolygon ar gyfer datblygiad personol ac integreiddio cymdeithasol, rhyddid i bobl fynegi eu pryderon, i drefnu a chymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a chyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal i'r holl fenywod a dynion.

Credaf fod yn rhaid inni fynd ymhellach o lawer na'r math o ymagwedd wirfoddol sy'n cael ei mabwysiadu. Rwy'n croesawu gwaith y Comisiwn Gwaith Teg wrth gwrs, rwy'n croesawu gwaith y Living Wage Foundation a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd yn sgil hynny, ond rwy'n eithriadol o falch fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo i ddeddfu yn y maes hwn mewn gwirionedd, oherwydd credaf mai dyna yw'r unig ffordd ymlaen—deddfu ar gyfer Deddf partneriaeth gymdeithasol, Deddf a fydd yn darparu mecanwaith ar gyfer sicrhau mai i gwmnïau sy'n barod i ymrwymo i safonau moesegol yn unig y bydd ein £6 biliwn o arian caffael yn mynd, a bod y cwmnïau sy'n cael yr arian caffael hwnnw'n ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol am y gadwyn gyflenwi, yr holl ffordd i lawr, fel nad oes gennych system is-gontractio lle mae pawb yn cymryd toriad o'r elw ac yn y pen draw, y gweithwyr sy'n cael llai a llai.

Ac rwy'n falch hefyd fod gennym Brif Weinidog sydd wedi ymrwymo yn awr i weithredu adran 1 o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Torīaid wedi gwrthod ei wneud ar lefel y DU. Mae wedi'i roi ar waith yn yr Alban ac nid oes unrhyw rheswm o gwbl pam na ddylem ymrwymo bellach i'w weithredu, gan ddefnyddio caffael ar gyfer amcanion economaidd-gymdeithasol. Ac rwy'n falch iawn fod gennym Brif Weinidog yn awr sy'n ymrwymedig i hynny hefyd.

Felly, er fy mod yn croesawu'r penderfyniad hwn, rwy'n ei groesawu cyn belled ag y mae'n mynd, a'r hyn a ddywedaf yw nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rhaid inni symud yn awr i'r ewyllys newydd; hynny yw, creu hawl penodol i waith gweddus a theg, os ydych yn gweithio yng Nghymru. Rwyf am weld Cymru'n dod yn genedl gwaith teg, nid cenedl cyflog byw yn unig na hyd yn oed cenedl cyflog byw go iawn. Mae cymaint o ffactorau'n perthyn i hynny. Wrth gwrs ceir cyfyngiadau, a dyna pam fod angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac rydym angen y math o agenda sy'n cael ei hyrwyddo gan John McDonnell yn awr ar ail-sefydlu hawliau cyflogaeth, ond hawliau cyflogaeth sylfaenol fel rhan greiddiol o fusnes. A ydym yn gweithio i fusnesau wneud elw yn unig, neu a ydym yn gweithio mewn gwirionedd er mwyn inni allu cael safon byw sy'n weddus? Mae'r cydbwysedd wedi'i golli yn ein cymdeithas a rhaid inni adfer y cydbwysedd hwnnw ar lefel y DU, ond mae llawer y gallwn ei wneud ar lefel Cymru hefyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddatblygu agenda ddeddfwriaethol i wneud yr hyn a allwn yng Nghymru i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl gwaith teg. Diolch.