Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Ionawr 2019.
Mae gennym ni gynllun, yn wir, Llywydd. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd. 'Cymru Iachach' yw ei enw. Mae'n dda gweld y cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan GIG Lloegr yn benthyg yn uniongyrchol gan y cynllun yr ydym ni eisoes wedi ei gyhoeddi ar gyfer Cymru. [Chwerthin.]