Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Hoffwn eich croesawu chi, Prif Weinidog, i'ch swydd newydd a dymuno pob lwc i chi ynddi.
Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae gordewdra yn broblem gynyddol yng Nghymru ac mae gordewdra ymhlith plant yn fygythiad arbennig. Bu arolwg diweddar gan Cancer Research UK sy'n cysylltu gordewdra yng Nghymru gyda pha mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach rhad. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant? A yw'r Prif Weinidog yn teimlo bod pa mor rhwydd yw cael gafael ar fwyd sothach, a hysbysebu bwyd sothach, yn cael effaith ar ordewdra ymhlith plant?