Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod y ffaith ein bod ni wedi gweld twf yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y maes yma. Ac mae yn rhan bwysig o'r economi yng nghefn gwlad. Ar hyn o bryd, beth rydw i wedi ei weld yw bod y bobl sy'n gweithio yn y maes yn llwyddo, a dyna pam rydym ni wedi gweld nifer fwy o bobl yn rhoi mewn am gynllunio, i wneud mwy o waith yn y maes yma. A'r sialens i'r Llywodraeth ac i awdurdodau lleol yw cael balans rhwng yr economi, y bobl sy'n gweithio yn y maes yma, a phobl leol. Dyna pam rydym ni wedi sefydlu grŵp newydd, i fod yn glir ein bod ni'n gallu gwarchod pobl leol pan fydd y gwaith yn dod ymlaen ond hefyd i warchod ein heconomi ni a swyddi rydym ni'n creu yn y maes yma.