Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Llywodraeth yr wythnos diwethaf ei bod wedi cyfarwyddo'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i gynnal adolygiad o strategaeth economaidd Cymru. Rydych chi wedi defnyddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wrth gwrs, trwy ei raglen PISA, i feincnodi Cymru yn y cynghreiriau addysgol yn fyd-eang. A allwch chi ddweud beth yw safle Cymru o ran CMC y pen o'i chymharu ag aelod wledydd eraill y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd? A ydych chi'n credu y byddem ni'n uwch neu'n is yn y cynghreiriau hynny pe byddem ni'n wlad annibynnol?