Tai Cyngor yn y Flwyddyn Ariannol 2019/20

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:03, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb? Mae'r Prif Weinidog yn gwbl ymwybodol mai'r unig adeg ar ôl yr ail ryfel byd pan adeiladwyd tai digonol oedd pan ymgymerwyd â datblygiad tai cyngor ar raddfa fawr—os meiddiaf ddweud, mewn lleoedd fel Trelái. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru helpu cynghorau i gynyddu nifer y tai cyngor a gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol?