Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Ionawr 2019.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod cyfraddau adeiladu tai cymdeithasol wedi bod yn annigonol ers nifer o ddegawdau erbyn hyn, ac mae hynny'n annerbyniol. Un o'r costau mwyaf, wrth gwrs, o ran adeiladu tai, yw tir. A fyddwch chi'n fodlon ystyried sut y gall tir gael ei gaffael gan eich Llywodraeth yn gymharol rhad fel y gellir creu banc tir, gan alluogi mwy o awdurdodau lleol i adeiladu mwy o dai cyngor?