Helpu Pobl Allan o Ddigartrefedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Rhianon Passmore am y cwestiwn. Cefnogir ein hymrwymiad i atal a mynd i'r afael â digartrefedd gan gyllid newydd sylweddol o £30 miliwn. Cyhoeddwyd camau trawslywodraethol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, wrth i ni fuddsoddi mewn prosiectau tai yn gyntaf a chefnogi amrywiaeth o ddulliau arloesol i fynd i'r afael â'r broblem gymhleth hon.