Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch i chi am eich ateb. Mae bron i bum mlynedd nawr ers i Arsyllfa Wledig Cymru ddod i ben—y Wales Rural Observatory. Nawr, mi oedd hwnnw, wrth gwrs, wedi cyfrannu degau lawer o adroddiadau swmpus iawn a oedd yn cyfrannu at ddatblygiad polisi gwledig yma yng Nghymru. Mi ddywedodd y Gweinidog perthnasol ar y pryd, wrth ddiddymu'r ariannu, y byddai'r gwaith yn parhau mewn ffurf llai costus. Wel, nid ydw i'n siŵr os ydy'r gwaith wedi parhau. Yn sicr, mi oedd yna erthygl ddifyr gan yr Athro Peter Midmore yn Golwg yn ddiweddar a oedd yn dweud, a dweud y gwir, nad oedd e'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad â'r un nod—yn sicr o'r un safon a'r un sylwedd—â'r rhai a oedd yn cael eu cynhyrchu gan yr arsyllfa wledig.
Nawr, rŷm ni'n gwybod bod newid sylweddol yn dod i gymunedau gwledig, boed trwy Brexit neu ddatblygiadau eraill. Felly, a gaf i ofyn beth sydd yn hysbysu polisi a datblygiad polisi gwledig Llywodraeth Cymru y dyddiau yma? Onid yw hi'n amser nawr inni edrych eto ar greu rhyw fath o arsyllfa sydd yn gallu cyfrannu at y drafodaeth gwbl allweddol honno?