Blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer Economi Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:12, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn dymuno'n dda i chi yn eich swydd newydd, Prif Weinidog.

Mae'n 18 mis bellach ers cyhoeddi cynlluniau ar gyfer parc modurol yng Nglynebwy. Ers y cyhoeddiad hwnnw, ni osodwyd unrhyw sylfeini, ac nid oes unrhyw arwydd o'r swyddi a addawyd. Mae ardal fenter Glynebwy wedi creu dim ond 179 o swyddi mewn saith mlynedd. A all y Prif Weinidog ddweud pryd y bydd y parc modurol yn gwbl weithredol a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflawni ei haddewidion i ddod â swyddi gwerthfawr i Lynebwy, os gwelwch yn dda?