Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw ac i'm dau gyd-Aelod am roi cwrs carlam imi mewn cynllunio. Rwyf ar ddeall mai cyfrifoldeb Cyngor Powys yw hyn, ac nad yw'r holl geisiadau'n agored i'r gweithdrefnau cyn ymgeisio hynny a ddisgrifiwyd gennych. Credaf, fodd bynnag, ei bod yn well imi ofyn i'm cyd-Aelodau ysgrifennu atoch i roi rhywfaint o eglurder ar hynny.