Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Ionawr 2019.
Mae'r capasiti technoleg gwybodaeth yng ngogledd Cymru yn amrywio o ysgol i ysgol. Yn ychwanegol at y £5 miliwn ar gyfer uwchraddio band eang, rwyf wedi dyrannu £1.7 miliwn i gynorthwyo ysgolion i fodloni gofynion digidol y cwricwlwm newydd, gyda blaenoriaeth i’r ysgolion sydd fwyaf o angen uwchraddio seilwaith yr ysgol.