Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n falch fod yr Aelod yn ymwybodol o brosiect arloesol e-sgol sydd, yn wir, yn cael ei dreialu ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae'n adeiladu ar brofiad Llywodraeth yr Alban o ddarparu addysg yn yr ucheldiroedd a'r ynysoedd. Weithiau, rydym yn poeni am ein gwledigrwydd; wel, mae darparu addysg o dan yr amgylchiadau hynny, mewn system ddwyieithog, fel yr un sydd gennym, yn sicr yn her. Roeddwn yn falch o lansio'r prosiect yn yr ysgol uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan, a gwelais wers fathemateg bellach arloesol yn cael ei dysgu’n ddwyieithog i ddisgyblion yn yr ysgol honno ac i ysgol arall yng Ngheredigion. Heb y prosiect hwnnw, ni fyddai'r disgyblion yn yr ysgol arall yn gallu ymgymryd â chwrs mathemateg bellach Safon Uwch, cymhwyster sy’n atyniadol iawn i rai o’r prifysgolion gorau.
Mae prosiect e-sgol yn rhan bwysig o'n cynllun addysg ar gyfer ysgolion gwledig. Nid yw'r prosiect wedi'i gynllunio i fod yn brosiect ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n rhan o'r ateb i rai o anfanteision logistaidd darparu addysg mewn ardal wledig. Wrth gwrs, byddwn yn gwerthuso'r cynllun o ran gwerth am arian, ond yn bwysicach fyth, yr effaith a gaiff ar gyfleoedd i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig, ac os yw'r cynllun yn dilyn llwyddiant cynllun yr Alban, a chredaf yn gryf y bydd, byddwn yn ceisio'i gyflwyno mewn awdurdodau lleol gwledig eraill, oherwydd ni waeth lle y caiff plentyn ei addysg yng Nghymru, boed mewn lleoliad trefol neu leoliad gwledig, maent yn haeddu’r cyfleoedd gorau posibl.