Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:42, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n siŵr eich bod yn disgwyl imi ddychwelyd at yr adroddiad yn y Western Mail heddiw, Weinidog, ac rwyf am wneud hynny. Soniodd Darren Millar fod arweinwyr ysgolion yn teimlo wedi ymlâdd ac o dan fygythiad ac yn fwyaf arbennig yn methu ymdopi â gofynion amhosibl a bennir oddi fry gan amrywiaeth o bobl fiwrocrataidd.

Ar ôl nodi cyllid, a byddech yn disgwyl hynny, mae'n debyg, a phroblemau recriwtio a chadw staff, ychwanegodd y penaethiaid hyn—ac rwy'n eu dyfynnu— nad yw'r systemau addysg gorau yn recriwtio talent ac yn cyfyngu arnynt wedyn gyda pholisi o'r brig i'r bôn neu gydag arweinyddiaeth ysgolion... wedi'i gor-ganoli.

Ac wrth gwrs, fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y gorffennol, byddwch wedi cytuno gyda'r maniffesto yn 2016, a ddywedai,

'Mae athrawon yn cyflawni'r canlyniadau gorau pan gânt hyblygrwydd a chefnogaeth, nid eu llethu gan fiwrocratiaeth. Byddwn yn darparu mwy o ryddid i athrawon a mwy o hyblygrwydd i'n hysgolion.'

Yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol—a allwch egluro pwy sy'n ei llunio ac yn ei llywio er mwyn osgoi unrhyw bryderon fod hyn hefyd yn ymwneud â gofynion amhosibl a bennir oddi fry gan amrywiaeth o bobl fiwrocrataidd?