Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:57, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw: dywedwch fod ymgynghoriad parhaus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd—mae hynny'n ddigon teg, mae ymgynghoriad ar waith. Fodd bynnag, nid yw bwlio mewn ysgolion yn fater newydd. Mae hwn wedi bod yn fater datganoledig ers tro byd bellach. Pam mai yn awr, neu'n gymharol ddiweddar, y rhoddwyd ymgynghoriad ar waith gennych? A ydych yn mynd i argymell y dylid cofnodi bwlio'n statudol? A fyddwch yn trin bwlio yr un ffordd â digwyddiadau eraill?