Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch, Weinidog. Mae'r ethos wrth wraidd y cynllun yn wych, ond mae rhai o fy etholwyr wedi ysgrifennu ataf yn mynegi pryderon am ei bod hi'n bosibl nad yw rhai plant o gefndiroedd difreintiedig yn gallu elwa ohono, a hynny oherwydd y gallai eu bywydau anodd gartref ei gwneud yn anodd iddynt fynd i'r ysgol ar amser yn gyson i fanteisio ar y bwyd am ddim, a gallai hynny effeithio ar eu dysgu. Mae'n ffaith drist fod yna blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi go iawn ac yn mynd heb fwyd. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o ddarparu bwyd am ddim yn nes ymlaen yn y bore ar gyfer y plant sy'n methu mynychu'r clwb brecwast cyn i'r ysgol ddechrau?