Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Ionawr 2019.
Mae llais disgyblion yn allweddol i hysbysu polisi a chreu amgylchedd addysgol cynhyrchiol ar gyfer ein hysgolion. Dylai pob disgybl gael cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'u dysgu, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth i'r cwricwlwm newydd ddod yn agored ar gyfer cael adborth.