Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:44, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, ni fyddem yn anghytuno â chi ynglŷn â hynny, wrth gwrs, gan fod maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys academi debyg, a hoffem weld fersiwn lwyddiannus iawn o hynny yn darparu'r canlyniadau y gobeithiaf y byddai pob un ohonom yn eu gweld. Fy nghwestiwn oedd: pwy sy'n llywio hynny mewn gwirionedd? Ai gweision sifil a fydd yn ei llunio, neu athrawon? Clywsoch gennyf ynghylch y pryderon ynglŷn â hunanarfarnu ddoe, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy gennych maes o law ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych.

Ond gadewch inni edrych ar y gwaith a grybwyllwyd gennych o ddiwygio'r cwricwlwm. Yn gynharach yr wythnos hon, beirniadwyd cyflymder y newid mewn ysgolion gan yr un penaethiaid, gan fod ysgolion uwchradd—unwaith eto, rwy'n dyfynnu— yn ymdrin â TGAU a Safon Uwch diwygiedig ar yr un pryd ag y maent yn ceisio paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rhywbeth a gefnogwyd mewn egwyddor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eu tystiolaeth ysgrifenedig nad oes digon o'r hyn sy'n wirioneddol bwysig wedi'i gynnwys yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad... mae gormod o'r datganiadau yn rhai generig, wedi'u diffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau, a bod hyn yn debygol o arwain at ddatblygiad disgyblion yn cael ei adael i ffawd, ac y bydd cyfanswm o 30 maes dysgu a phrofiad yn arbennig o heriol i athrawon cynradd lle nad yw'r llwyth yn cael ei rannu ar draws adrannau/cyfadrannau.

Ac yn olaf, yn fwyaf damniol oll, tra bo'r tirlun yn gorlifo ag arbenigwyr yn "cynhyrfu" ynglŷn â diwygio'r cwricwlwm... y realiti yw y bydd yn rhaid i athrawon o dan bwysau llwyth gwaith geisio gwneud iddo weithio ar lawr gwlad.

Nawr, rydych yn clustnodi llawer iawn o arian i hyfforddi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn—ar gyfer hyn—pan nad ydym yn deall yn iawn beth yw ystyr 'hyn', ac ar yr un pryd, golyga hynny fod arian i'w gael nad yw'n mynd i gyllidebau ysgolion, ac nid yw hynny'n rhoi rhyddid i athrawon nac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion. Sut rydych yn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y penaethiaid a CLlLC na fydd y cwricwlwm, sydd i fod yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar amser mewn unrhyw ffordd glir ac ystyrlon, a beth a wnewch ynglŷn â hynny?