Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 9 Ionawr 2019.
Weinidog, yn y pwyllgor y bore yma, buom yn trafod y pryderon parhaus ynglŷn â rhai o'r materion sy'n ymwneud â Brexit a'r system gofal iechyd, ac fe fyddwch yn gwybod fod rhifyn 17 Tachwedd o'r British Medical Journal wedi datgan yn blwmp ac yn blaen y bydd cleifion yn marw os na allwn gynnal y gadwyn gyflenwi meddyginiaethau. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynlluniau wrth gefn eich adran i ddiogelu'r cyflenwad o feddyginiaethau, yn enwedig meddyginiaethau gydag oes silff gyfyngedig na ellir eu storio mewn senario 'dim bargen', sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn gobeithio na fydd yn digwydd wrth gwrs, ond sy'n dod yn fwy ac yn fwy o risg?