Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:35, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, ac efallai y gallwch roi rhagor o wybodaeth inni yn dilyn y cyfarfod â'r rhanddeiliaid ynghylch yr union drefniadau pe baem yn wynebu gorfod hedfan meddyginiaethau draw.

Soniasoch yn eich ymateb am y gost ychwanegol i'r GIG. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'—. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr Aelodau draw acw'n peri peth rhwystredigaeth i mi; rwy'n siŵr y cewch gyfle i ymateb i'r pwyntiau hyn i'r Gweinidog, ond mae'n anodd iawn cael trafodaeth synhwyrol ynglŷn â'r materion hyn pan fydd pobl yn gwneud sylwadau ar eu heistedd.

Weinidog, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o'r costau ychwanegol posibl hyn, a sut y mae hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynlluniau wrth gefn? Rwy'n sylweddoli bod y costau posibl hyn, ar hyn o bryd, yn rhai damcaniaethol, a gobeithio y bydd hwnnw'n fater na fydd yn rhaid inni ei wynebu, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi'n hanfodol, o ran cynllunio ar gyfer y senario waethaf, fod gennych ryw fath o syniad clir ynglŷn â'r costau ychwanegol y gallech orfod eu hwynebu.