Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:47, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, mae'n codi rhai pwyntiau synhwyrol a phwysig iawn mewn ymateb i fy nghwestiwn. Fe fydd yn ymwybodol iawn o'r problemau rydym wedi eu hwynebu yng Nghymru gyda systemau gwybodeg GIG Cymru, ac yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ddywedai ein bod yn credu bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar redeg systemau TG sydd wedi dyddio, ac ar adeg pan fo potensial gofal iechyd digidol yn tanio'r dychymyg ac yn gwella canlyniadau i gleifion, 10 y cant yn unig o weithgarwch Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy'n canolbwyntio ar arloesi.

Cynhaliwyd y treialon clinigol a grybwyllais funud yn ôl yn Llundain gan gwmni meddalwedd feddygol o'r enw EMIS, ond maent hwy bellach wedi colli eu statws fel y darparwr a ffafrir o ganlyniad i benderfyniad gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yma yng Nghymru. Felly yma, yn gyntaf oll, mae gennym adroddiad damniol o weithgareddau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a methiant eu hymdrechion i foderneiddio system gyfrifiadurol y GIG, ac eto, ar y llaw arall, maent yn cael gwared ar statws darparwr cwmni sydd wedi llwyddo i ddarparu'r union fath o wasanaethau y mae arnom eu hangen. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau nad ydym yn gweld y math o gamddeall gweinyddol a achoswyd gan y math hwn o beth, yn ôl pob golwg?