Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:39, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yw wedi cymryd llawer o amser o gwbl. Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon ar bob pwynt mewn perthynas â'r ymyrraeth o ran y mater cychwynnol ynghylch gofal mamolaeth, ac yn wir, yn dilyn y cyfarfod tairochrog diweddar iawn rhwng prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gwneuthum ddewis cynnar—fel y byddwch wedi'i weld o'r datganiad ysgrifenedig heddiw—i newid statws uwchgyfeirio Cwm Taf o 'arferol' i 'monitro gwell'. Ac wrth gwrs, byddaf yn ateb cwestiwn amserol ar y mater hwn ymhen ychydig funudau.