Ysbyty Athrofaol y Grange

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:08, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ragweld lefel y galw gan bobl nad ydynt eto wedi penderfynu lle y maent eisiau byw neu lle nad ydynt eisiau byw. Wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol o staff a fydd yn gweithio yn y Grange eisoes yn gweithio o fewn GIG Cymru. Mae yna nifer o bobl sy'n teithio pellteroedd cymharol sylweddol i'r gwaith, yn ogystal â'r rheini sy'n dewis byw o fewn amser teithio cryn dipyn yn llai i brif safle eu gwaith.

Rwy'n disgwyl y bydd y sgwrs honno am yr angen am dai yn parhau gyda'r awdurdod lleol, i wneud yn siŵr fod ganddynt gynlluniau ar waith i sicrhau eu bod yn bodloni'r angen hwnnw yn y dyfodol. Ond credaf y gallwn edrych ymlaen at ddyfodol cadarnhaol iawn i'r Grange a'r effaith economaidd y bydd yn ei chael ar yr ardal leol, yn etholaeth eich cyd-Aelod, Nick Ramsay, yn wir, ac wrth gwrs, etholaeth fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Dorfaen.