4. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:27, 9 Ionawr 2019

Ar 9 Ionawr 1839, 180 o flynyddoedd i’r dydd heddiw, ganwyd Sarah Jane Rees yn Llangrannog, Ceredigion. Yn fwy adnabyddus yn ôl ei henw barddol, Cranogwen, fe wnaeth hi herio holl gyfyngiadau ar fywyd menyw yn yr oes Fictoraidd i fwynhau gyrfa arloesol. Yng ngeiriau yr Athro Deirdre Beddoe:

'Cranogwen oedd merch Gymreig fwyaf nodedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg.'

Yn ei harddegau hwyr, perswadiodd ei thad, a oedd yn gapten llong, i fynd â hi i’r môr. Am ddwy flynedd bu'n gweithio fel morwraig ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc cyn dychwelyd i Lundain ac i Lerpwl i gynyddu ei haddysg forwrol. Enillodd ei thystysgrif prif forwr, ac, yn 21 oed, sefydlodd ysgol yng Ngheredigion, lle addysgodd forwriaeth i ddynion ifanc lleol.

Yn 1865, daeth yn enwog dros nos gan mai hi oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan guro prif feirdd eraill y dydd. Roedd cerdd fuddugol Cranogwen, 'Y Fodrwy Briodasol', yn ddychan cynhyrfus ar dynged y wraig briod. Aeth ymlaen i fod yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan farddoni ar bynciau amrywiol o wladgarwch i longddrylliadau.

Mi oedd yn ddarlithwraig ac yn bregethwraig ar adeg pan nad oedd siarad cyhoeddus yn beth derbyniol i fenywod o gwbl. Mi sefydlodd gylchgrawn i fenywod, Y Frythones, sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De, a gwneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch menywod yn eu cartrefi ac o fewn cymdeithas.

Un o'i syniadau mwyaf blaengar oedd lloches i fenywod ifanc, ac er na fu hi byw i weld ei breuddwyd o dŷ i fenywod digartref yn cael ei adeiladu, agorwyd y lloches Llety Cranogwen er cof iddi yn y Rhondda yn 1922.

Mae Cranogwen yn un o’r pump o fenywod Cymreig y Merched Mawreddog/Hidden Heroines, sy’n destun pleidlais yr wythnos yma i’w hanfarwoli gyda cherflun cyhoeddus. Y bedair arall yw Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Elaine Morgan, a’r Arglwyddes Rhondda. Mi fydd y bleidlais yma yn agor am 9.30 p.m. nos Wener. Mi fyddaf i yn pleidleisio dros Cranogwen o Geredigion, ond mae’r pump ohonynt, a mwy, yn haeddu eu cofio a’u hanrhydeddu.