Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 9 Ionawr 2019.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol.
Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd dros 24 mlynedd a mwy na £0.5 biliwn i sicrhau bod ffyrdd Cymru'n cyrraedd y safon. Mae gennym ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio ffyrdd, sydd hefyd wedi arwain at gynnydd mewn taliadau iawndal ac yswiriant oherwydd difrod ac anafiadau a achoswyd gan dyllau yn y ffyrdd. Tyllau yn y ffyrdd yw un o brif achosion damweiniau car ar ein ffyrdd ac maent yn gyfrifol am beri marwolaeth neu anaf difrifol i lawer o feicwyr bob blwyddyn. Mae toriadau awdurdodau lleol ac un neu ddau o aeafau caled wedi cyfrannu at gynnydd sydyn yn nifer y tyllau yn y ffyrdd sy'n bla ar ein priffyrdd a'n cilffyrdd. Heb fuddsoddiad ychwanegol a blaengynllunio, bydd ein ffyrdd yn dirywio llawer mwy, ymhell y tu hwnt i'r gallu i ddarparu atgyweiriad cyflym. Gall tyllau yn y ffyrdd sy'n cael eu hatgyweirio'n wael wneud y sefyllfa'n waeth o lawer, gan fod halen ffordd a dŵr is na'r rhewbwynt yn ystod misoedd y gaeaf yn difetha'r gwaith atgyweirio, gan arwain at dwll sydd hyd yn oed yn fwy.
Mae'r proffwydi tywydd yn rhagweld gaeaf caled arall eto a fydd yn difetha cyflwr ein rhwydwaith ffyrdd ymhellach. Felly, rwy'n croesawu argymhellion Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu derbyn pob un ohonynt. Y ffyrdd sydd yn y cyflwr gwaethaf yw ein ffyrdd lleol—cyfrifoldeb y 22 cyngor yng Nghymru—ac eto mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod sicrhau arian wedi'i glustnodi ar gyfer ein ffyrdd neu i sicrhau ein bod yn symud oddi wrth gyllidebu o flwyddyn i flwyddyn i gynlluniau buddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n fwy strategol. Yr agwedd gibddall hon sydd wedi ein harwain i lle'r ydym heddiw, lle y gadewir i ffyrdd ddirywio bron hyd nes na ellir eu defnyddio, yna eu hatgyweirio'n frysiog a ffwrdd â hi a'u gadael i ddirywio ymhellach cyn gosod wyneb newydd arnynt yn y pen draw.
Mae angen inni symud oddi wrth yr ymagwedd adweithiol hon a mabwysiadu ymagwedd fwy strategol tuag at ein seilwaith cenedlaethol. Mae gwir angen rhaglen wedi'i chynllunio a'i hariannu'n briodol ar gyfer atgyweirio a gosod wyneb newydd ar ffyrdd. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd y gall technoleg helpu i fynd i'r afael â phroblem tyllau yn y ffyrdd. Mae peiriannau newydd a datblygiadau newydd ym maes cyfryngau bondio yn golygu y gall gwaith atgyweirio bara mwy na wyneb gwreiddiol y ffordd. Mae datblygiadau newydd ym maes gwyddor deunyddiau wyneb ffyrdd wedi arwain at greu ffyrdd sy'n gwella'u hunain, sy'n cael eu hadeiladu yn yr Iseldiroedd a Tsieina.
Mae angen inni sicrhau bod ein ffyrdd, asgwrn cefn ein heconomi, yn addas ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn sicr o arwain at arbedion ariannol yn y dyfodol yn ogystal â lleihau nifer y damweiniau, y marwolaethau a'r anafiadau difrifol sy'n digwydd ar ffyrdd Cymru. Gyda'r pwyntiau hyn mewn cof, rwy'n annog y Gweinidog i ailystyried ei wrthwynebiad i argymhellion 3 a 4. Diolch yn fawr iawn.