Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf allu ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd y pwyllgor am ddarparu'r elfennau gweledol ategol i'r ddadl heddiw. Nid oeddwn wedi sylweddoli bod y gystadleuaeth ffotograffig wedi denu unrhyw wawd; rwy'n credu o ddifrif ei bod hi'n ffordd wirioneddol arloesol o ddenu diddordeb ymhlith y bobl a wasanaethir gennym yn y gwaith a wnawn, a hoffwn longyfarch y pwyllgor am benderfynu cynnal y gystadleuaeth honno.
Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn, drwy gydol fy amser yn y swydd, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i system drafnidiaeth integredig, garbon isel ac amlfodd safonol a all gefnogi ein cymunedau, ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ar hyd a lled Cymru. Gwn mai canfyddiad y cyhoedd o bosibl yw fod Llywodraeth Cymru yn llawn o beirianwyr ffyrdd sydd ond eisiau adeiladu ffyrdd newydd—clywais y jôc lawer gwaith o'r blaen—ond nid yw'n wir. Edrychwch ar yr hyn a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Cynigion ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer metros yn y gogledd ac yn y de, cynnydd mawr yn y buddsoddiad ar gyfer teithio llesol, ac mae Papur Gwyn newydd pwysig ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n argymell newidiadau uchelgeisiol i'n sectorau bysiau a thacsis yn profi'r pwynt hwnnw yn fy marn i.
Ond sut bynnag y bydd pethau yn y dyfodol, mae cael rhwydwaith ffyrdd dibynadwy sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n gallu gwasanaethu'r cymunedau a'r economïau rhanbarthol y soniais amdanynt yn rhan hanfodol o'r hafaliad. Ar dros 1,700 km o hyd, mae'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr, ac yn werth tua £16 biliwn. Drwy wella cysylltedd a hybu gweithgarwch economaidd, mae'n cefnogi cyflawniad llawer o'r amcanion yn 'Ffyniant i Bawb' a'r 'Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru'. O'i roi'n syml, rydym yn gyfrifol am dri maes: rydym yn gyfrifol am adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol; rydym yn gyfrifol am adnewyddu ffyrdd, pontydd a strwythurau eraill; ac rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd o ddydd i ddydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, gan gynnwys, wrth gwrs—yn hollbwysig—gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf.
Mae angen gwaith yn barhaus ar draws y rhwydwaith i sicrhau ei ddiogelwch, a chaiff gwaith ei reoli ar hyn o bryd gan ddau asiant sector cyhoeddus: Asiant Cefnffyrdd De Cymru, a reolir gan gyngor Castell-nedd Port Talbot; ac yng ngogledd a chanolbarth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, a reolir gan Gyngor Sir Gwynedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gaeafau caled yn ddiweddar wedi bod yn garedig i'r rhwydwaith mewn unrhyw fodd, gan achosi tarfu sylweddol, ac rydym wedi profi dirywiad cyflym yng nghyflwr wyneb ffyrdd, oherwydd y cylch rhewi-dadmer ar draws Cymru a nodwyd gan lawer o'r Aelodau heddiw. Ond hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym yn parhau i weithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio'r rhwydwaith, gan ganiatáu 10 biliwn o gilometrau o ddefnydd y flwyddyn gan gerbydau drwy gydol pob tymor. Mae natur y gwaith yn hynod o gostus, ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, buddsoddwyd dros £146 miliwn mewn gwaith cynnal a chadw a mân welliannau yn unig. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd gyrru ym mhob un o'n cynlluniau trafnidiaeth. O ran argymhelliad 4, rydym yn cydnabod, ac yn cydymdeimlo â galwadau gan ein partneriaid sector cyhoeddus a busnesau i gyllidebu dros gyfnod hwy o amser lle y bo'n bosibl, er mwyn cefnogi blaengynllunio ariannol, ond rhaid cydbwyso ein huchelgais i gyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol.
Mae ein cyllideb gyfalaf 10 y cant yn is mewn termau real nag ar ddechrau'r degawd hwn, ac mae tyllau yn y ffyrdd yn ein hatgoffa'n glir, yn weladwy ac yn ddyddiol am raglen gyni Llywodraeth y DU. Mae'r ansicrwydd ariannol sy'n parhau a'r amhendantrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau am fargen yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi cynlluniau cyfalaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, 2019-20 a 2020-21—y cyfnod y mae gennym setliad hysbys ar ei gyfer. Dyrannwyd gwerth £32.5 miliwn ychwanegol o grantiau penodol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i awdurdodau lleol ar gyfer gwella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a byddwn yn darparu £60 miliwn pellach yn benodol ar gyfer adnewyddu priffyrdd dros y tair blynedd rhwng 2018-19 a 2021-22. Yn briodol yn fy marn i, mae penderfyniadau ynglŷn â ffyrdd lleol a blaenoriaethu gwaith atgyweirio a gwelliannau yn faterion y dylid eu penderfynu'n lleol.
Bydd cyfalaf cyffredinol o £100 miliwn ychwanegol a ddarparir rhwng 2018-19 a 2021-22 fel rhan o'r pecyn ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cyfrannu'n enfawr tuag at gynorthwyo cynghorau lleol i wella cyflwr eu rhwydwaith ffyrdd, ac yn eu galluogi i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth eraill lleol, a werthfawrogir yn llawer mwy eang na chan ddefnyddwyr ffyrdd yn unig wrth gwrs.
Rydym yn datblygu prosiectau mawr i wella'r rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru, yn enwedig mewn mannau cyfyng lle y mae tagfeydd yn gallu bod yn broblem fawr. Drwy wneud ein rhwydwaith yn fwy effeithlon, rydym yn gwella cynhyrchiant, a hefyd yn gwella mynediad at swyddi, gwasanaethau a hamdden. Gall gwella mannau cyfyng chwarae rôl bwysig hefyd wrth leihau allyriadau yn gyffredinol, yn ogystal â darparu manteision sylweddol o ran ansawdd aer, sŵn a theithio llesol i gymunedau lleol.
Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi rhaglen dreigl bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth rydym yn eu cyflwyno ar draws Cymru, a diweddarwyd y cynllun ym mis Rhagfyr 2017 gyda bwriad i'w adolygu'n flynyddol er mwyn adlewyrchu datblygiadau dros amser a'r proffil anghenion newidiol ledled Cymru. Mae strategaeth drafnidiaeth gyfredol Cymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008, yn cael ei hadolygu hefyd. Bydd y strategaeth honno, a gyhoeddir eleni, yn darparu cyfle i fabwysiadu dulliau newydd o weithredu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod cyfnodau allweddol ei datblygiad. Mae swyddogion eisoes yn ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyfeiriad y strategaeth hon, a buom yn gweithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar lansio'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru hefyd.
I ategu ein cyllideb gyfalaf, rydym hefyd wedi datblygu amrywiaeth o gynlluniau ariannu arloesol, gan gynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol, i ariannu prosiectau cyfalaf mawr. Bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus ar draws ein gwlad. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau pwysig i hyrwyddo lles y cyhoedd. Mae'r model yn ymestyn dull y Llywodraeth o weithredu manteision cymunedol, sydd wedi bod yn nodwedd allweddol o'r cynlluniau eraill a gyflawnwyd hyd yma. Mae hefyd yn ymgorffori ein hymrwymiadau i gyflogaeth foesegol a datblygu cynaliadwy, a bydd yn cyfrannu at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi dweud yn glir na ddefnyddir y model buddsoddi cydfuddiannol os oes mathau eraill o gyfalaf ar gael. Gwn fod swyddogion eisoes wedi briffio'r pwyllgor ar y model, ond darperir cyfarwyddyd pellach yn ystod y broses o gaffael y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol cyntaf, sef cwblhau'r gwaith deuoli ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.
Mae swyddogion yn parhau i gysylltu â gweithredwyr amrywiol ledled y DU er mwyn rhannu arferion gorau, gan gynnwys Transport Scotland, Highways England a chontractwyr lleol. Mae hyn wedi arwain at fanyleb newydd ar gyfer gosod wyneb ar ffyrdd sy'n addas ar gyfer ateb her gwytnwch, cynaliadwyedd ac effeithiau amgylcheddol newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn gwbl ymwybodol fod apiau ffonau symudol yn tyfu'n norm, ac y gallent fod yn anhygoel o ddefnyddiol i gynorthwyo gyda chynllunio gwaith cynnal a chadw. Mae'n gydnabyddedig ar draws y diwydiant nad yw arolygon cyfredol yn arfer dull amser real effeithlon, a byddai'r system gwybodaeth ddaearyddol yn gallu amlygu problemau gyda chyflwr ffyrdd a llywio penderfyniadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gynllunir ar sail dreigl.
Felly, i gloi, Gweinidogion Cymru sy'n uniongyrchol gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru ac mae ganddynt ddyletswydd statudol i gynnal ei ddiogelwch a'i weithrediad. Byddwn yn parhau ein buddsoddiad parhaus yn y gwaith o gynnal a chadw a gwella'r ased allweddol hwn.