Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 9 Ionawr 2019.
Mae'r galw am dai yn fwy na'r cyflenwad yng Nghymru, fel y mae ledled y DU. Mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer. Cododd y galw ychwanegol am dai yn bennaf o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un person, sy'n adlewyrchu ffordd o fyw mwy modern, a ffactorau eraill hefyd, megis y cynnydd yn y boblogaeth.
Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei strategaeth dai ei hun, 'Cartrefu Cenedl'. Gwn fod rhai ohonoch wedi gofyn amdani, ac rwyf wedi bod yn hapus i'w dosbarthu, ac mae rhai ohonoch wedi gwneud sylwadau adeiladol iawn. Yn amlwg, bydd pethau ynddi na fyddwch yn eu rhannu'n gyfan gwbl, o ran y pwyslais y byddem yn ei osod ar y materion hynny, ond rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bwysig inni nodi ein gweledigaeth a'n bod yn agor y drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi dangos diddordeb yn hynny. Mae ein syniadau presennol, felly, yn mapio llwybr fel y gallwn ddechrau datrys yr heriau sydd o'n blaenau, ond yn amlwg, mater i eraill, bellach, yw dod ynghyd ac i bawb ohonom ffurfio'r safbwynt cydsyniol hwnnw.
Rydym yn trafod fforddiadwyedd a pherchentyaeth, tir a chyflenwad tir, a datblygiadau o ran adeiladu ac arloesedd. Rydym yn rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad tai. Rydym yn argymell mwy o gydweithredu rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, ac yn cyflwyno syniadau i annog mwy o ymgysylltiad cymunedol. Rydym yn codi mater cyflogaeth yn y sector adeiladu, a gwella sgiliau gweithwyr profiadol sydd mewn perygl o syrthio ar ôl gydag esblygiad safonau tai, yn enwedig gyda thechnegau adeiladu mwy modern. Dyma faes nad yw'n cael ei drafod yn aml mewn unrhyw ddadl ynglŷn â thai mewn gwirionedd, ond mae'n gwbl hanfodol, ac rwy'n falch fod adroddiad Shelter yn rhoi sylw iddo, gan fod cyfle gwych yma i ni. Fel y mae Shelter yn ei bwysleisio, mae pwysigrwydd adeiladu preswyl i'r economi ddomestig yn helaeth, gydag un o'r lluosyddion uchaf a gyfrifwyd, sef 184 y cant. Felly, mae'n weithgaredd da iawn ar gyfer yr economi yn ogystal â'r angen cymdeithasol enfawr y mae'n ei ddiwallu.
Rydym hefyd yn sôn am adeiladu cartrefi cynaliadwy—nid yn unig o ran eu deunyddiau ond cynaliadwy o ran eu hyblygrwydd yn y dyfodol fel eu bod yn addas am eu hoes gyfan, nid ar gyfer heddiw'n unig.
Fel y dywedais, nid ein syniadau yw'r gair olaf ar bopeth. Rydym wedi eu cyflwyno, mewn gwirionedd, fel Papur Gwyn, i gael mwy o ymgysylltiad â rhanddeiliaid a gwleidyddion, i ni allu dysgu beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio.
Lywydd, rwy'n credu bod angen imi sôn yn fyr am rai o'r costau a allai fod ynghlwm wrth hyn. Unwaith eto, rwy'n argymell y dylai pobl edrych ar adroddiad Shelter. Mae'n ymdrin â Lloegr yn unig, ond nid yw'n anodd ei drosi a gwneud cyfrifiadau. Bydd mwyafrif y costau'n cynnwys buddsoddi a benthyca cyfalaf, yn enwedig yn rhan gynnar eu tymor.
Mae Shelter yn cyfrifo ar gyfer rhaglen 20 mlynedd, ac mae ein strategaeth dai ein hunain yn edrych ar raglen 10 mlynedd. Beth bynnag, os edrychwch ar Shelter, fe wnaethant ofyn i Capital Economics amcangyfrif y math o lefel o wariant a fyddai'n ofynnol—hyn ar gyfer Lloegr. Cyfrifwyd y byddai cyfartaledd y benthyciad ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y rhaglen honno yn £3.8 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai'n £190 miliwn. Mae'n swm sylweddol o arian, ond yn y ddadl flaenorol clywsom am seilwaith trafnidiaeth a'r costau sydd ynghlwm wrth hynny. Cyfrifir y bydd uchafswm y benthyciad yn y rhaglen ar gyfer Lloegr yn £5.4 biliwn. Os troswch hyn ar gyfer Cymru, byddai hynny'n rhywbeth fel £270 miliwn.
Mae hyn yn rhan o'r consensws newydd sydd ei angen arnom—fod angen inni fenthyca. Credaf fod gan bawb ohonom safbwyntiau amrywiol ynglŷn â sut i reoli cyni, ond mae benthyca ar gyfer seilwaith sy'n talu nôl—nid yw tai'n rhedeg i ffwrdd ac mae pobl yn talu rhent—yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno yn awr. Byddai Llywodraeth Cymru yn cael ein cefnogaeth i hyrwyddo'r dadleuon hyn yn ogystal, oherwydd mae benthyca ar gyfer buddsoddiad sy'n amlwg yn angenrheidiol yn beth deallus i'w wneud.
Felly, Lywydd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n gynnig diffuant, a gwn fod angen inni ailadrodd y llwyddiant a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, gadewch inni roi diwedd ar wleidydda pitw, a gadewch inni weithio gyda'n gilydd i oresgyn yr heriau mawr sy'n wynebu Cymru ym maes tai. Diolch yn fawr.