7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:39, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Caf fy nghalonogi'n fawr gan y syniad hwn o greu consensws ynghylch polisi tai, ac rydych yn sôn am dai cyngor. Cafodd rhai o'r tai cyngor gorau—yr eiddo teuluol mwy o faint—eu gwerthu o dan yr hawl i brynu. Er mwyn cyrraedd y consensws hwn, a fyddech yn barod i droi cefn ar eich obsesiwn ideolegol gyda'r polisi hwnnw?