Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n cytuno â'r rhan honno. Nid wyf yn siŵr y byddai ein llwybrau tuag ato yr un fath yn union, ond yn hollol, cymdeithas gynaliadwy o ddeiliadaethau cymysg neu gyfansoddiad cymdeithasol cymysg sydd ei angen arnom. Un o'r pethau rwy'n gresynu’n fawr atynt ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr ystadau tai cyngor lle y mae fy nheulu'n byw gan mwyaf yw nad yw'n economi gymysg o gwbl bellach—maent wedi troi'n ystadau geto, mewn gwirionedd, gyda phobl benodol sydd â mathau penodol o broblemau yn cael eu gwthio i'r ystadau. Dyna sydd wedi achosi llawer o anawsterau cymdeithasol, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno—y cyflenwad tai sydd dan sylw yma'n bennaf.
Felly, fel y dywedais eisoes, mae'r portffolio tai a llywodraeth leol newydd yn dwyn ynghyd y meysydd polisi allweddol sy'n cyfrannu fwyaf at adeiladu mwy o gartrefi. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r holl ddulliau polisi perthnasol i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraeir gan y system gynllunio, a byddwn yn parhau i archwilio beth y gallem ei wneud i gryfhau cynllunio fel y gallwn ddarparu mwy o gartrefi.
Mae cyhoeddiad y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig cyn y Nadolig, unwaith eto gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, yn nodi'n glir ymagwedd fwy cadarn tuag at ddarparu cartrefi newydd drwy osod ystyriaethau hyfywedd yn flaenllaw yn y broses gynllunio. Y nod yw annog busnesau adeiladu bach a chanolig a phobl sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain yn ogystal, gan ein bod yn cydnabod yn llwyr y pwynt a wnaed gan nifer o bobl o gwmpas y Siambr am yr angen i ryddhau cymaint o dir â phosibl a hwyluso hunanadeiladu mewn rhannau mawr iawn o Gymru.
Mae'n werth crybwyll o ran hynny fy mod wedi cael y fraint fel rhan o dasglu'r Cymoedd o fod wedi cael cyflwyniadau da iawn gan swyddogion ac eraill ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu cynlluniau parod ar gyfer hunanadeiladu, os mynnwch, i helpu pawb yn ein cymdeithas i weld y gallent hwythau hefyd ddatblygu eu cartref eu hunain yn y ffordd honno. Rwy'n falch iawn o allu symud ymlaen ar hynny hefyd.
Rydym yn llwyr gydnabod rôl y Llywodraeth i fuddsoddi mewn tai ychwanegol, fel y dywedwyd ar draws y Siambr. Mae ein buddsoddiad mwyaf erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, felly dyna un arwydd yn unig o faint yr ymrwymiad. Fel y dywedais, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd yn nogfen strategaeth y Blaid Geidwadol yn hynny o beth.
Fel y dywedais, rydym yn cytuno â'r cynigion ynghylch hunanadeiladu. Rydym hefyd yn cytuno bod gan dai modiwlar a gweithgynhyrchu oddi ar y safle ran bwysig a chynyddol i'w chwarae. Bydd sefydliadau tai yn gallu dysgu o'r prosiectau cyffrous sy'n dechrau dod i'r amlwg drwy'r rhaglen tai arloesol, ac edrychaf ymlaen at ymweld â datblygiad cyfleuster tai modiwlar yng ngogledd Cymru cyn bo hir i weld beth y gallwn ei wneud i annog pob un o'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fanteisio ar y rhaglen adeiladu tai modiwlar, a fydd yn cyflymu'r broses adeiladu pan fyddwch wedi dechrau arni yn y lle cyntaf.
Rydym hefyd yn cynorthwyo bron i 8,000 o bobl i brynu cartref drwy Cymorth i Brynu—Cymru. Er mwyn dylanwadu ar ymddygiad adeiladwyr, mae gwahardd y defnydd o'r cynllun ar gyfer tai lesddaliadol newydd wedi dileu'r arfer fwy neu lai yn llwyr yng Nghymru. Y mesurau hyn oedd y cyntaf o'u bath yn y DU. Maent wedi helpu i sicrhau cytundeb y pum cwmni adeiladu tai mwyaf yng Nghymru na fyddent mwyach yn gwerthu eu tai ar sail lesddaliadol. Credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwyf am edrych i weld a oedd hynny'n ddigonol neu a oes angen inni roi camau ychwanegol ar waith.
Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed i ailddechrau defnyddio 5,000 o gartrefi gwag yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Ceir llawer o eiddo gwag, fodd bynnag, na wneir unrhyw beth yn ei gylch, fel y nododd Mike Hedges a nifer o bobl eraill. Byddwn yn edrych i weld pa gamau pellach y gellid eu rhoi ar waith i helpu i fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt i annog camau i ailddechrau defnyddio tai gwag, gan gynnwys rhai o'r darpariaethau treth gyngor a roddwyd ar waith gennym ac ysgogiadau treth eraill—y dreth ar dir gwag ac yn y blaen. Credaf ein bod yn edrych ar dreth eiddo gwag hefyd fel rhywbeth y gallem ei ddatblygu yn y dyfodol i geisio annog camau i ailddechrau defnyddio'r tai hyn.
Maddeuwch imi, ni allaf gofio pa Aelod a'i dywedodd, ond byddaf yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud am y fenter Troi Tai'n Gartrefi—rwy'n credu efallai mai Suzy Davies a wnaeth. Rwy'n cytuno nad yw wedi'i deall yn dda gan bawb, a chredaf y gallem wneud llawer mwy â'r fenter honno, yn enwedig mewn ardaloedd lle y cafwyd crynodiadau mawr o dai amlfeddiannaeth a fyddai'n elwa'n fawr o gael eu troi'n ôl yn gartrefi at ddefnydd teuluoedd.