Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 9 Ionawr 2019.
Boed yn dai cyngor ai peidio, neu'n dai cymdeithasol ai peidio, mae gennych oruchafiaeth y cwmnïau adeiladu tai mawr hyn ar y farchnad, cwmnïau, fel y dywedodd Mike Hedges, sydd heb unrhyw gymhelliant i ateb y galw'n llawn ac sy'n adeiladu mewn ardaloedd lle y mae'r galw'n uchel iawn ac nid ydynt yn adeiladu tai sy'n fforddiadwy i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny eisoes neu'n byw mewn ardaloedd ychydig y tu allan, i'r gogledd, sy'n ardaloedd incwm is. Felly, cyn belled â bod gennych gartél yn dominyddu'r farchnad, ni fyddwch yn gallu datrys y broblem tai cymdeithasol chwaith.
Yn 2013 y dywedodd Persimmon na fyddant yn adeiladu cartrefi i'r gogledd o Bontypridd mwyach. Maent wedi dweud hynny'n gyhoeddus. Dywedodd yr Athro John Punter, athro mewn dylunio trefol ym Mhrifysgol Caerdydd, nad oes unrhyw reswm pam y dylem fod yn neilltuo ardaloedd penodol yng Nghymru ar gyfer peidio ag adeiladu ynddynt. Gwnaeth Mike Hedges y pwyntiau eisoes: mae a wnelo â'r ffaith, pan fyddwch yn dechrau ateb y galw, nid oes unrhyw reswm i wneud elw, mae llai o allu i wneud elw, ond hefyd, ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu—ni fydd yr angen byth yn cael ei ddiwallu. Felly, gallaf weld pam y byddai'n synhwyrol i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru, oherwydd mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar dai cymdeithasol mewn ardaloedd na chânt eu diwallu gan y cromlin galw, ardaloedd nad ydynt yn cyrraedd yr angen am dai, ac felly gallaf weld yn berffaith fod angen i dai cymdeithasol fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi hynny hefyd.
Nid mater o dai yn unig yw hyn, fel y dywedwyd eisoes, mae hefyd yn fater o economi a thyfu'r economi yn ardaloedd y Cymoedd gogleddol rwy'n eu cynrychioli, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig o Gymru yn ogystal. Mae'r ddogfen dai a lluniodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ddiddorol, ond nid yw'r adran ar gyflenwad tir yn sôn am y gost o adfer. Nid yw'n ddogfen wedi'i chostio. Ni all y sector preifat fforddio talu'r gost o adfer mewn llawer o achosion. Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar fin dechrau ymchwiliad i fusnesau bach a chanolig ac adeiladu tai, ac rwy'n eithaf sicr y bydd adfer tir yn fater enfawr ac mae'n ffaith nad yw'r cyllid hwnnw gan awdurdodau lleol chwaith. Nid wyf yn berson arbennig o ddallbleidiol, ond mae cyni yn sicr wedi chwarae rhan yn y diffyg adfer tir, a rhaid i'r Ceidwadwyr wynebu hynny ac ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny.
Un o'r materion eraill a godais yw'r angen am gynllun datblygu strategol. Soniodd y Prif Weinidog—credaf mai yn ystod ei gwestiynau cyntaf i'r Prif Weinidog y gwnaeth hynny—fod prifddinas-ranbarth Caerdydd bellach yn gweithio ar gynllun datblygu strategol ac mae'n awyddus i'w weld yn cael ei weithredu. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, 'Pwyswch am hynny gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd', ac wrth y Gweinidog tai, 'Pwyswch am hynny gyda'r prifddinas-ranbarth'; mae angen inni weld cynnydd ar hynny, ac mae angen inni weld cynnydd ar hynny'n gyflym.
Ond y ffaith amdani yw fod y ddadl a gawsom heddiw, mewn llawer o ffyrdd, yn synhwyrol, yn aeddfed, ac ychydig yn ddallbleidiol hefyd, fel y bydd unrhyw ddadl y bydd Leanne Wood yn rhan ohoni, ond nid dyma'r math o ddadl y byddem yn ei chael allan gyda'r cyhoedd. Nid dyma'r math o ddadl a gawn ar adeg etholiad. Gadewch inni fod yn synhwyrol ynglŷn â hyn. Os ydym am sicrhau consensws, rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'r math o iaith a ddefnyddiwn yn ystod cyfnodau gorffwyll ymgyrchoedd etholiadol.