Part of QNR – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
Ar draws y Llywodraeth rydym yn rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo ysgolion drwy’r setliad ar gyfer llywodraeth leol. Rydym ni’n parhau i roi cyllid grant ychwanegol sylweddol uwchlaw’r cyllid craidd i ysgolion drwy awdurdodau lleol. Yn ystod tymor presennol y Cynulliad, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion.