Part of the debate – Senedd Cymru am 12:45 pm ar 15 Ionawr 2019.
Prynhawn da. Ddwy flynedd a hanner yn unig wedi ei ethol yn Aelod Cynulliad dros y de-ddwyrain, ac ond yn 34 oed, mae'n orchwyl trist iawn imi orfod datgan yn y Senedd inni golli ein cyd-Aelod a'n ffrind, Steffan Lewis, dros y penwythnos. Mae ei deulu annwyl a'i ffrindiau yn ymuno â ni heddiw yn yr oriel, wrth inni dalu teyrnged iddo. A gawn ni godi gyda'n gilydd yma yn y Siambr a thrwy ein hystâd yn gyfan i gofio Steffan Lewis?