Part of the debate – Senedd Cymru am 12:46 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd. Cenedl fach ydy Cymru, ond bob rhyw hyn, rŷm ni'n magu cawr. Des i nabod Steffan Lewis gyntaf, mae'n rhaid, dros 20 mlynedd yn ôl, yn sgil isetholiad Islwyn. Clywon ni sôn am y bachgen anhygoel yma o gymoedd Gwent a oedd nid yn unig yn aelod o Blaid Cymru, ond o'r SNP a Mebyon Kernow, ac wedi llwyddo i gael Undeb Rygbi Cymru i nodi hyn yn y rhaglen ar gyfer gêm Cymru-Lloegr pan oedd Steffan yn fascot i dîm Cymru. Doedd Steffan byth yn gwneud unrhyw beth ar ei hanner.
O fewn cwpl o flynyddoedd, roedd Steffan yn annerch cynhadledd y Blaid am y tro cyntaf, yn 14 oed—ddwy flynedd yn iau na William Hague ac, fel roedd e'n hoff o bwyntio mas, yn llawer mwy effeithiol. Hyd yn oed bryd hynny, nid Steffan bach mohono; yr oedd hwn am fod yn fawr. Mi oedd yna ddyfnder rhyfeddol yno o'r cychwyn. Ei fam, Gail, wrth y bwrdd smwddio, ac yntau'n naw a'r cwestiynau'n tasgu fel dŵr o ffynnon. Pryd a ble a pham—ac yn amlach na dim, y 'pam', fel rhyw fath o Vincent Kane o dan brentisiaeth. Gwelwyd y potensial a dyfrwyd y gwreiddiau, â Gail yn uwcholeuo erthyglau'r Western Mail ac yn prynu llyfrau hanes Cymru. Ond nid ysgrifennu straeon na llyfrau hanes oedd tynged hwn, ond ei greu.