Part of the debate – Senedd Cymru am 12:53 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd.
Mae'r ymdeimlad o dristwch a cholled yn ddwys yn y Cynulliad y prynhawn yma, wrth inni feddwl yn bennaf am deulu a chyfeillion Steffan, ond rydym hefyd yn meddwl am y golled i'r Cynulliad hwn a dyfodol ein cenedl. Rwy'n ymwybodol iawn nad oeddwn i, yn wahanol i Aelodau eraill—yn wahanol i Adam, sydd newydd siarad—yn adnabod Steffan o gwbl nes i mi gyfarfod ag ef yma ar ôl iddo gael ei ethol. Ac fel mae'n digwydd, Llywydd, roeddwn i'n rhannu'r un cyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru ar y pryd ag yr oedd ef ar ran Plaid Cymru yn y Siambr, sef siarad ar Brexit a siarad ar gyllid. O ganlyniad, ac yn llawer mwy nag a fyddai wedi digwydd yn gyffredin, cefais fy hun yn ei gwmni. Ac roedd ef, heb rithyn o amheuaeth, yn un o wleidyddion mwyaf graslon a galluog ei genhedlaeth; yn rhywun, fel y mae Adam Price newydd ei ddweud, pan fyddai'n dod i mewn trwy'r drws i drafod rhywbeth a oedd o bwys angerddol iddo ef, ei uchelgais bob amser fyddai ceisio'r fan lle gellid cael tir yn gyffredin a lle gellid cytuno â'n gilydd ar yr hyn sy'n gyfrifoldebau pwysig i ni i gyd. Dyna sut y cefais fy hun yn y diwedd yn gweithio gydag ef ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru', dogfen sydd wedi ein gwasanaethu'n dda iawn yn y ddwy flynedd diwethaf ac a fydd yn parhau, fe wn, yn faen prawf i'r math o wlad yr ydym yn dymuno ei gweld yn y cyd-destun y cawn ni ein hunain ynddo heddiw, a thu hwnt i hynny hefyd, a chawsom sgyrsiau ynghylch cyllid, a threth, a Gwent a'r pethau oedd o bwys iddo yno.
Mae'n anochel, wrth i rywbeth ofnadwy fel hyn ddigwydd, eich bod yn eich cael eich hunan yn cofio ac yn meddwl am y sgyrsiau a gawsoch chi. Roeddwn yn meddwl dros y penwythnos am achlysur pan fuom ni'n siarad gyda'n gilydd am bwysigrwydd gallu cyflwyno ar y cyd gopi o 'Ddiogelu dyfodol Cymru' i Lywodraeth y DU. Roedd yn gynnyrch ein dwy blaid, roedd y ddau ohonom wedi cymryd rhan fawr yn ei gynhyrchu ac roeddem yn dymuno mynd gyda'n gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei chyflwyno i Lywodraeth y DU. Ac wele, roedd uwch Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ymweld â Chaerdydd ac roeddem yn gallu mynd a chyflwyno'r ddogfen iddo. Cyflwynodd Steffan y ddogfen yn yr union ffordd y byddech chi'n ei disgwyl—yn eglur ac yn gryno. Fe gawsom ni ateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac, wrth inni adael yr ystafell, dywedodd Steffan wrthyf, 'Wel, os nad oeddwn yn genedlaetholwr cyn i mi ddod i mewn i'r ystafell hon, yn sicr rwyf yn genedlaetholwr wrth imi adael.' [Chwerthin.]
Fel y gwyddoch, roedd Steffan yn unigolyn meddylgar, sensitif ac ymroddedig. Ond roedd yn ddoniol hefyd, yn rhywun y byddech yn mwynhau bod yn ei gwmni, yn rhywun y byddech chi'n dysgu llawer ganddo, hyd yn oed yn yr eiliadau llai ffurfiol hynny. Mae'n anodd iawn meddwl, onid yw, mai chwe wythnos yn unig sydd ers iddo siarad am y tro diwethaf yn y Siambr hon. Ac mae'n galed cofio mai dim ond chwe mis yn ôl sydd ers i nifer ohonom yma yn y de ac yn y gogledd, ar draws y pleidiau yn y Siambr, ymgynnull i gerdded gyda'n gilydd ar hyd y ffrynt yn Llandudno. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn; yn un o'r dyddiau hirfelyn o haf hynny pan ddisgleiria'r haul ac ni allech chi ond bod yn obeithiol ynglŷn â'r dyfodol. A dyma ni, brin chwe mis wedi hynny, yn nyddiau tywyll y gaeaf. Ar ddiwrnod pan
Wyneb yr haul, ar draul galar, na welwn.
Ac, am amser go hir, Llywydd, ni wnawn ninnau godi ein pennau ychwaith.