Part of the debate – Senedd Cymru am 12:58 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch, Llywydd.
Rwyf innau hefyd yn codi gyda chalon drom i roi teyrnged i Steffan y prynhawn yma ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant â Shona ei wraig a Celyn ei fab ac â'i deulu a'i gyfeillion agos. Ni all dim eich paratoi chi ar gyfer colli rhywun mor ifanc.
Er mai dim ond yn 2016 y cafodd ei ethol i'r Cynulliad, roeddwn i'n ymwybodol iawn ei fod yn disgleirio'n gynyddol fel un o sêr ei blaid, ymhell cyn ei ethol, o'r sgyrsiau a gefais gyda rhai o'm cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru. Dywedodd Steffan fod cael ei ethol i'r lle hwn yn swydd ddelfrydol yn ei olwg, ac fe lenwodd ei swydd gydag anrhydedd hyd y diwedd un; gan sicrhau bob amser fod lleisiau ei etholwyr yn cael eu clywed. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, roedd yn amlwg i bawb ei fod yn wleidydd galluog, dawnus ac ymrwymedig iawn, gyda llawer iawn i'w gyfrannu eto.
Ni chofir iddo godi ei lais erioed pan gyflwynai ei gyfraniad, gan fod y Siambr bob amser yn ymdawelu pan siaradai ef, oherwydd roedd pobl yn wirioneddol awyddus i glywed beth oedd ganddo i'w ddweud. Weithiau, efallai, nid oeddwn yn rhy eiddgar i glywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud, gan ei fod bob amser â rhywbeth grymus a deallus i'w ddweud, a oedd weithiau'n gwrthbrofi'n gryf y dadleuon yr oeddem yn eu cyflwyno o'r ochr hon i'r Siambr. Nid yn unig ei fod yn cyflwyno dadleuon grymus a deallus, roedd hefyd bob amser â rhywbeth newydd i'w ychwanegu at y ddadl, rhywbeth nad oedd yr un ohonom ni wedi meddwl amdano. Byddai bob amser yn ymdrin â'r ddadl o wahanol gyfeiriad. Dyna un o'i gryfderau mwyaf yn fy marn i. Er ein bod ni ar wahanol ochrau i'r sbectrwm gwleidyddol, roedd gennyf barch mawr i'w safiad egwyddorol ar faterion a oedd o bwys gwirioneddol. Cofir amdano fel gwleidydd a oedd bob amser yn cadw at ei egwyddorion. Roedd hi'n gwbl eglur i mi pa mor ymroddedig ac ymrwymedig oedd ef i'w etholwyr ac ni fyddai byth yn caniatáu i'w salwch ei rwystro rhag dod yma i gynrychioli ei etholwyr. Bydd y dewrder a ddangosodd drwy gydol ei salwch yn esiampl i ni i gyd.
Rwy'n siŵr y bydd etifeddiaeth Steffan yn parhau drwy ei deulu ac, yn wir, drwy'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy fel Steffan yn ymuno â'r byd gwleidyddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael adnabod Steffan, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda Shona, Celyn a'i deulu ar yr adeg anodd iawn, iawn hon. Llywydd, dylai pob Senedd gael rhywun fel Steffan. Ond rydym ni'n drist iawn nawr ein bod wedi colli ein Steffan ni. Bydd colled enfawr ar ei ôl ym mhob cwr o'r Siambr hon.