Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Ionawr 2019.
Mi gwrddais i â Steffan yn gyntaf yn ystod y Cynulliad cyntaf, pan oedd e'n gwneud profiad gwaith gyda Jocelyn Davies yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd Steffan ei fywyd gwleidyddol yn ifanc iawn. Mi oedd e'n angerddol yn ei wleidyddiaeth bryd hynny, ac mi wireddodd ei freuddwyd yn 2016 i gael ei ethol i'w Senedd genedlaethol ac i olynu Jocelyn Davies. Er i'w fywyd fod yn fyr, fe baciodd Steffan lot fawr mewn i'w fywyd, ac ein hatgoffa taw nid wrth hyd fywyd mae gwir fesur gwerth y bywyd hwnnw.
Yn wahanol i nifer ohonon ni, mi oedd Steffan yn gwybod pob manylyn o hanes ei wlad, a sawl gwlad arall, nid er mwyn rhamantu'r hanes hwnnw, ond yn hytrach i ddeall yr hanes er mwyn cynllunio'r dyfodol, lle'r oedd popeth yn bosib i'w wlad. Ac, er yn llefarydd cryf dros Gymoedd y de-ddwyrain, dros Went, bro ei febyd, lle'r oedd treftadaeth ei ddwy iaith—y Saesneg a'r Gymraeg—yn bwysig iddo fe, uno Cymru oedd un o'r negeseuon parhaol gan Steffan. Mi oedd e'n gwylltio os oedd e'n clywed gormod o sôn am y gogledd neu'r gorllewin. Iddo fe, roedd Cymru'n un.
Dyn oedd Steffan â'r cyffredin a'r anghyffredin yn perthyn iddo—yn garedig ac yn ddidwyll a chwbl o ddifri am ei uchelgais i'w wlad. Mi fydd ei esiampl ef yn gyrru nifer ohonom ni i weithio'n galetach i wireddu ei freuddwydion i'w wlad a'i gymuned, ac yn ei enw e.
Wrth inni gloi'r cyfarfod teyrnged yma, dwi'n cymryd y cyfle eto i gydymdeimlo ar ein rhan ni oll gyda theulu Steffan: ei wraig, Shona, a'i fab bach, Celyn; ei fam, Gail; ei chwaer, Nia; a Neil, sydd yma hefyd heddiw. Mi fyddwn ni'n meddwl amdanoch chi yn y dyddiau a'r misoedd anodd i ddod. Mi fyddwn ni'n cofio'n annwyl iawn am ein ffrind Steffan Lewis, ac yn diolch i chi'r teulu am ei rannu gyda ni. Yng ngeiriau'r bardd Annest Glyn yn ystod y dyddiau diwethaf yma:
'Enaid yw sy'n dal ar dân,
Nid diffodd a wna Steffan.'
Diolch, Steffan. Diolch, bawb.