Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 15 Ionawr 2019.
Wel, Llywydd, rwy'n meddwl ein bod ni'n cefnogi arloesedd ym maes tai. Mae gennym ni ffrwd gyllid benodol i gefnogi ffyrdd arloesol y gellir diwallu anghenion a bodloni gofynion tai yma yng Nghymru. Yn y ddadl a gynhaliwyd yn y Siambr yma yr wythnos diwethaf, gwnaeth nifer o Aelodau gyfraniadau a oedd yn sôn am y cyfleoedd a geir ar gyfer gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu newydd y gallwn eu defnyddio yn y ffordd honno. Nid wyf mewn sefyllfa i ymrwymo i'r pethau penodol y mae'r Aelod wedi eu hamlinellu y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud yn un sy'n gyson iawn eisoes â pholisi'r Llywodraeth.