Mynd i'r Afael â Thlodi

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:54, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae credyd cynhwysol yn rhy aml yn system greulon ac annynol yn ymarferol sy'n achosi trallod i deuluoedd a chymunedau, boed hynny oherwydd yr amseroedd aros am daliad cychwynnol a'r system fenthyciadau sy'n cyd-fynd â hynny, neu'r diffyg gallu i wneud taliad uniongyrchol i landlordiaid o ran budd-dal tai, neu amodoldeb a chosbau, sy'n aml yn llym. Mae'n aml yn arwain at ddyled, digartrefedd, ciwiau mewn banciau bwyd, ac wythnosau os nad misoedd yn cael eu treulio heb unrhyw incwm o gwbl. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried datganoli gweinyddiad credyd cynhwysol ar gyfer system fwy trugarog yng Nghymru?