Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Canol De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:01, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwy'n llwyr gydnabod yr her a wynebir yn y rhan honno o seilwaith y de-ddwyrain. Rwy'n dal i fod o'r un safbwynt ag yr esboniais y tro diwethaf y gofynnwyd i mi yma yn y Cynulliad. Ceir cyngor y mae angen iddo ddod i mi fel Prif Weinidog, ar ôl cael adroddiad arolygydd yr ymchwiliad lleol annibynnol. Nid yw'r cyngor hwnnw wedi ei gwblhau eto. Pan ddaw i law, byddaf yn rhoi sylw iddo gyda meddwl cwbl agored, gan ddibynnu ar yr adroddiad ei hun a'r holl ystyriaethau eraill y bydd cyngor yn dod i mi ar eu sail.