Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Ionawr 2019.
Llywydd, diolch. Ymhlith y mesurau polisi y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn Islwyn y mae'r ddarpariaeth o grant tai cymdeithasol i landlordiaid cymdeithasol. Cynhyrchodd y mesur hwn ar ei ben ei hun dros 50 o gartrefi fforddiadwy newydd yn yr ardal yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda mwy na 50 arall i'w cwblhau yn 2018-19.