6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:08, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu y daeth sawl thema allweddol i'r amlwg yn ystod y ddadl. Wrth gwrs, y cyntaf fyddai cyni, oherwydd bod y pwysau a orfodwyd arnom gan bron i ddegawd o ideoleg crebachu'r wladwriaeth drwy gyni Llywodraeth y DU wedi bod yn niweidiol iawn. Mae yna hualau cadarn ar ein gallu i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Rydym ni wedi defnyddio'r ychydig arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu, ond wrth gwrs nid ydym ni wedi gweld diwedd ar gyni, fel yr addawodd y Prif Weinidog.

Mewn ymateb i Nick Ramsay, gallaf roi sicrwydd ein bod wedi defnyddio'r arian canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn benodol i agor ac ehangu ein cynlluniau rhyddhad ardrethi, yr ydym yn eu darparu i fusnesau bach, oherwydd ein bod yn cydnabod pa mor bwysig ydyn nhw, nid yn unig i'r stryd fawr ond i economïau lleol yn ehangach. Byddwn yn gwrthod unrhyw awgrym ein bod yn trosglwyddo'r bai, oherwydd y gwir amdani yw pan fyddwch yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo baich ac effeithiau cyni ar eu bywydau, rwy'n credu nad oes angen mynd ymhellach na'r banciau bwyd sy'n ymddangos, ar hyd a lled ein gwlad, i siarad â phobl sy'n sicr yn gwbl bendant yn teimlo effeithiau cyni. Nid oes diddordeb ganddyn nhw pwy sydd ar fai, mae diddordeb ganddyn nhw yn yr hyn sydd orau ar gyfer eu teuluoedd a sut y gallan nhw ddiwallu anghenion eu teuluoedd heb fynd i drafferthion.

Rydym ni'n clywed yn aml gan y Ceidwadwyr sut y mae gennym ni'r gyllideb fwyaf o ran arian parod. Wrth gwrs, mae'n wir mai cyllideb 2019-20 yw'r uchaf erioed o ran arian parod, ond mae'n ddatganiad cwbl ddiystyr oherwydd ers 1948—sef, y 70 mlynedd diwethaf—mae gwariant y sector cyhoeddus ar draws y DU wedi cynyddu o ran arian parod bob blwyddyn ac eithrio un, felly, yn hynny o beth, mae pob blwyddyn bron yn flwyddyn â gwariant cyhoeddus y DU yn uwch nag erioed o'r blaen, ar y sail honno. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae dyraniad cyllideb y DU i Gymru, mewn gwirionedd, wedi gweld gostyngiadau arian parod yn nhair o'r 10 mlynedd ddiwethaf, felly mae hynny'n rhoi'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhyw fath o bersbectif.

Yr ail thema, mewn gwirionedd, fyddai Brexit, ac rydym wedi sôn llawer amdano yn ystod y prynhawn. A bydd degawd o gyni ynghyd â bygythiad cynyddol ddifrifol y cawn Brexit 'dim cytundeb' yn cael effaith drychinebus ar Gymru. Rydym wedi clywed heddiw am rai o'r cynlluniau parhaus ond hefyd am rywfaint o'r ansicrwydd parhaus, sydd mewn gwirionedd yn amharu ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Ond fe wnawn bopeth yn ein gallu i ddiogelu busnesau a chymunedau rhag yr effaith bosibl ar ein gwlad. Ac, wrth gwrs, rwyf wedi cyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol y prynhawn yma.

Y drydedd thema, mewn gwirionedd, yw ansicrwydd, ac mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn waeth yn sgil yr ansicrwydd ehangach sy'n deillio o ddiffyg gweithredu a rhagofal Llywodraeth y DU. Nid oes gennym setliad cyllido y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, ac yn amlwg, byddwn wedyn yn wynebu adolygiad cynhwysfawr o wariant ac, o bosibl, gyllideb frys gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny yn amlwg yn cyfyngu ar ein gallu i gynllunio ymlaen llaw a darparu sefydlogrwydd i bobl a sefydliadau sy'n dibynnu ar ein cefnogaeth.

A'r bedwaredd thema, ac rwy'n credu ei bod wedi ymddangos yn gryf iawn yn y ddadl hon, yw buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn parhau i gyflawni mewn cyfnod anodd, a bydd y cynnig sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn sicrhau cyllideb sy'n darparu rhywfaint o ddiogelwch ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym yn buddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth: iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol. Ac rwyf yn cydnabod yn llwyr yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol, ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod Julie James yn siarad am hyn nesaf yn y Cynulliad.

Ond mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r ddadl, mewn gwirionedd, bod iechyd a llywodraeth leol yn gwbl groes i'w gilydd, o gymorth, yn fy marn i, oherwydd mae'r ddau beth yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am grybwyll byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r gwaith pwysig sy'n digwydd yn y fan honno ynghylch cyfuno cyllidebau a gwneud y mwyaf o'r adnoddau a meddwl yn greadigol a gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Ac rwy'n credu mai dyna le y dylem ni droi mwy o'n sylw ato yn y dyfodol.

Rwy'n derbyn yn llwyr y pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid o ran amseriad ymatebion y Llywodraeth i'r pwyllgor craffu, ac fe fyddwn i'n barod i gael trafodaeth bellach ar hynny. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid wedi nodi y byddai'n well ganddo barhau â'r arfer presennol sydd gennym ni o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn cyllideb yr hydref. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn hapus i ystyried awgrymiadau gan y Pwyllgor Cyllid pe byddai'n well ganddo wneud hynny mewn ffordd wahanol, ond rwy'n credu, yn yr Alban, er enghraifft, eu bod yn cyhoeddi eu cyllideb ar ôl datganiad yr hydref. Ein pryder fyddai y byddai'r math hwnnw o oedi yn gwneud pethau'n anoddach i'r partneriaid sydd gennym ni, ond beth bynnag am hynny, mae angen inni sicrhau ymatebion prydlon i bwyllgorau.

Felly, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd ac, wrth wneud hynny, byddwn i'n awyddus iawn i barhau â'r ymgysylltiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o ran pennu cyllidebau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael rhai trafodaethau da eleni ac y bu nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar sut yr ydym yn diffinio 'gwariant ataliol', er enghraifft. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae gennym ni ddiddordeb ynddo ar draws y Llywodraeth.

Felly, i gloi, mae hon yn gyllideb sy'n diwallu anghenion pobl Cymru, ac mae'n atgyfnerthu ein gweledigaeth i greu Cymru well, Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithredol, yn weithredol o ran dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig, a bod ffyniant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n gyllideb sy'n diogelu yn wyneb y polisi cyni niweidiol ac yn gyllideb sy'n darparu sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd parhaus a'r posibilrwydd o gael Brexit 'dim cytundeb' trychinebus. Mae'n gyllideb sy'n gwerthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac sy'n buddsoddi ynddyn nhw ac mae'n gyllideb yr wyf i'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo'r prynhawn yma. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig ichi.