Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy nghyfrifoldeb i yw cyflwyno setliad llywodraeth leol 2019-20 ar gyfer y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru i'r Cynulliad. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon, rwy'n dilyn cyfres hir o Weinidogion llywodraeth leol sydd wedi annerch y Cynulliad hwn. Rydym ni i gyd yn deall mai dim ond pan fo yna ddemocratiaeth leol fywiog sy'n ymgysylltu â chymunedau lleol y gall Cymru a'i holl gymunedau gyflawni eu potensial llawn.
Mae angen awdurdodau lleol deinamig arnom ni sy'n gallu denu buddsoddiad, gwella mannau lleol a sicrhau'r gofal yr ydym ni i gyd eisiau ei roi i'n gilydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n bleser gen i gynnig wrth y Cynulliad hwn y bydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i awdurdodau lleol Cymru, yn 2019-20, yn 0.2 y cant. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn her i awdurdodau lleol barhau i wneud mwy â llai, ac rwy'n cymeradwyo sut maen nhw wedi gwneud hynny'n union dros y degawd diwethaf o gyni. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod Aelodau'r Cynulliad wedi dod i'r ddadl hon yn barod i gefnogi'r achos dros roi mwy o adnoddau i awdurdodau lleol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn dymuno dyrannu rhagor o arian i'w cymunedau, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, ond, yn anffodus, ni all Llywodraeth Cymru gynhyrchu'r adnoddau hynny.
Clywsom yn y ddadl gynharach ynglŷn â'r gyllideb derfynol, yn ystod y degawd diwethaf o gyni, y bu gostyngiad o £850 miliwn mewn arian parod yng nghyllideb Cymru, sef gostyngiad o 7 y cant mewn adnoddau real. Er ein bod ni dros y degawd wedi mynd i drafferth fawr i ddiogelu'r setliad llywodraeth leol, yn anochel, mae llywodraeth leol Cymru yn dioddef o effaith Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd ag ymrwymiad ideolegol i leihau maint y wladwriaeth. Mae gennym ni bartneriaeth gadarn â llywodraeth leol yng Nghymru lle'r ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddyrannu'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Rwy'n talu teyrnged i'r bobl hynny sydd mewn llywodraeth leol a fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed gyda'i gilydd i ganiatáu imi gynnig y setliad hwn. Ac i fy rhagflaenydd, Alun Davies, mewn gwirionedd, a weithiodd yn galed iawn hefyd i ddod â'r setliad hwn i'r fan lle y cymerais i'r cyfrifoldeb amdano.
Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael dros £4.2 biliwn o ddyraniadau refeniw cyffredinol o'r cyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 y cant o'i gymharu â 2018-19. Mae dosbarthiad y cyllid hwn yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol sy'n seiliedig ar wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Wrth baratoi'r setliad terfynol, mae'r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro a ddaeth i ben ar 20 Tachwedd. Rydym ni hefyd wedi gwrando ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb. Roedd y setliad dangosol gwreiddiol ar gyfer 2019-20 yn rhagweld y byddai gostyngiad o 1 y cant mewn arian parod, gostyngiad o £43 miliwn. Cyfeiriodd awdurdodau lleol yn briodol at raddfa'r her yr oedd hyn yn ei chyflwyno a'r effaith ar wasanaethau y mae pobl eu hangen ac yn eu gwerthfawrogi.
Rydym ni wedi gwneud amryw o ddyraniadau eraill i'r setliad llywodraeth leol i liniaru'r gostyngiad y mae llywodraeth leol wedi bod yn ei ddisgwyl. Yn y setliad drafft a gyhoeddwyd ar 9 Hydref, neilltuwyd £43 miliwn o gyllid ychwanegol. Roedd hwn yn cydnabod yn benodol y flaenoriaeth yr ydym ni a'r cynghorau yn ei rhoi i wasanaethau cymdeithasol ac addysg a'r pwysau a'r costau penodol y mae'r gwasanaethau hyn yn eu hwynebu yn sgil galw cynyddol a chostau cyflog. O'i gymharu â'r setliad dros dro, mae'r setliad terfynol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £23.6 miliwn ychwanegol o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys £13 miliwn i gefnogi gwasanaethau lleol yn gyffredinol, gan gydnabod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Cynulliad; £1.2 miliwn i ddarparu terfyn isaf gwell i'r setliad; £7 miliwn bob blwyddyn i gefnogi'r cynnydd yn y terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 o fis Ebrill 2019—mae hyn yn golygu bod darpariaeth ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i godi'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 yn dod i ben ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl—a £2.4 miliwn i ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol ar gyfer busnesau lleol a threthdalwyr eraill i ymateb i faterion lleol penodol. Mae hyn yn ychwanegol at ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr.
Mae'r arian ychwanegol yn golygu bod y Llywodraeth wedi gallu diwygio ymhellach y trefniadau terfyn isaf fel nad yw'r un awdurdod bellach yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol ar sail tebyg am debyg. Mae'r terfyn isaf yma o £3.5 miliwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Pan rydym ni wedi gofyn i awdurdodau lleol weithredu â llai o adnoddau real, rydym ni wedi cydnabod y cyflawnir hyn orau drwy gydbwyso'r grant cymorth refeniw heb ei neilltuo a grantiau wedi'u neilltuo i gyflawni canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rydym ni'n parhau i wneud hyn, ac mae'r setliad yn cynnwys £20 miliwn i helpu bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r grant penodol o £30 miliwn.
Rydym ni'n falch bod Llywodraeth y DU wedi crybwyll y bydd yn rhoi mwy o amser i asesu a gwerthuso ei chynlluniau ar gyfer symud hawlwyr budd-daliadau etifeddol i gredyd cynhwysol yn raddol. Rydym ni'n aros am ragor o fanylion am y cyfnod arbrofi. Rydym ni'n deall, ar hyn o bryd, bod Llywodraeth y DU yn dal yn bwriadu cyflwyno credyd cynhwysol erbyn Rhagfyr 2023.
Yn unol â'r cynigion yn ein hymgynghoriad diweddar, rydym ni'n sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol, drwy'r setliad, ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'n trothwy arfaethedig a'r camau pontio er mwyn diogelu. Rydym ni hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy'r dyfarniad cyflog athrawon. Rydym ni'n cyfeirio'r cyfan o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 13 Medi i lywodraeth leol. Ar gyfer 2018-19, bydd £8.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol, mae £13.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad ar gyfer 2019-20 ar gyfer ysgolion a gynhelir o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 11, a bydd y £1.1 miliwn sy'n weddill yn parhau i gael ei ddarparu y tu allan i'r setliad fel grant penodol ar gyfer athrawon chweched dosbarth mewn ysgolion ar gyfer blynyddoedd 12 a 13. Rydym ni hefyd yn darparu £7.5 miliwn y tu allan i'r setliad i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â phwysau costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r dyfarniad cyflog athrawon.
Gan droi at arian cyfalaf cyffredinol, bydd awdurdodau lleol yn cael £100 miliwn ychwanegol mewn grant cyfalaf cyffredinol dros y tair blynedd nesaf—mae'n ddrwg gen i, Mike, wnes i ddim eich clywed chi.