7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:51, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac am gyfrannu at y ddadl. Yn gyntaf rwyf eisiau ymateb i'r sylwadau ynghylch digonolrwydd y setliad. Mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau sy'n ein hwynebu ni a llywodraeth leol drwy'r setliad hwn a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Yn wir, fe wnes i bwynt o ddweud, er nad yw'r setliad hwn yn drychinebus, nid yw ychwaith yn newyddion da i lywodraeth leol o ystyried y polisïau cyni y mae Llywodraeth y DU yn eu hyrwyddo. Mae'r blaid gyferbyn a llawer o Aelodau'r gwrthbleidiau eraill—byddech chi'n meddwl mai polisi cartref a grëwyd yma yng Nghymru oedd cyni ac nid rhywbeth y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn mynd ar ei hynt am gyfnod hirach nag unrhyw lywodraeth arall mewn hanes. Mae'r setliad sydd gennym ni heddiw yn sicr yn ganlyniad i'r polisïau hynny sy'n seiliedig ar gyni.

Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sylwadau a wnaed gan nifer o Aelodau o amgylch y Siambr—rhai ohonyn nhw'n fwy defnyddiol nag eraill—hoffwn ddweud eto fy mod i'n barod iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod neu grwpiau o Aelodau sy'n dymuno trafod y setliad yn gyffredinol neu fanylion y setliad ar gyfer eu hawdurdod lleol nhw. Rwy'n fwy na pharod i gwrdd ag Aelodau i egluro pam fod y fformiwla fel y mae, sy'n hawdd iawn. Mae oherwydd bod grwp ac is-grŵp cyllid partneriaeth y cynghorau wedi llunio'r fformiwla hon ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n cael ei adolygu'n gyson, mae partneriaeth y cynghorau yn cytuno arno ar y cyd â llywodraeth leol. Nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei orfodi ar lywodraeth leol, ac os yw unrhyw Aelodau yn meddwl bod ganddyn nhw ffordd well o ddosbarthu'r arian, y maen nhw'n credu y byddai'n gweithio ledled Cymru, yna rwy'n fwy na pharod i drafod â nhw. Mae'r fformiwla hon yn sicr yn fformiwla y cytunwyd arni â llywodraeth leol, ac mae'n ystyried maint poblogaeth, pa mor ddwys neu wasgaredig yw'r boblogaeth, amddifadedd a nifer o bethau eraill, sy'n arwain, wrth gwrs, at wariant gwahaniaethol ledled Cymru, yn dibynnu ar yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sydd gan bob awdurdod lleol o fewn ei ffiniau.

Ac mewn ymateb i Aelodau eraill yn gofyn am benderfyniadau gwahanol, wrth gwrs, llywodraeth leol yw'r haen gyntaf—y gyntaf, neu'r ail os oes gennych chi gyngor cymuned—o ddemocratiaeth, ac, wrth gwrs, aelodau etholedig democrataidd yr awdurdodau lleol hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny ar ran y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli, a dyna sut y dylai fod. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni eisiau etholaethau awdurdod lleol bywiog, amrywiol a galluog yng Nghymru, ac rwy'n canmol eu hymdrechion i wneud hynny.

Hoffwn ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau yn gyflym am y sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar ddechrau'r cylch cyllideb hwn. Ym mis Ionawr 2018, fe wnaethom ni gyhoeddi'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2018-19 a ffigur dangosol ar gyfer 2019-20. Nododd llywodraeth leol yn glir y llynedd bod angen cymaint o sicrwydd ar gyfer y dyfodol ag y bo modd. Pleidleisiodd y Cynulliad yn dilyn hynny i roi sicrwydd i lywodraeth leol y byddai cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer 2019-20 yn £4.2 biliwn o leiaf. Nid oedd hynny, sef toriad o 1 y cant, yn sefyllfa yr oeddem ni'n dymuno gadael llywodraeth leol ynddi, ond roedd yn arwydd o faint o sicrwydd yr oeddem ni o'r farn y gallem ni ei roi o gofio'r sefyllfa o ran ein cyllideb ni ein hunain ac ansicrwydd o ran cyllid cyhoeddus. O ganlyniad i'r gyllideb derfynol a gadarnhawyd yn gynharach heddiw, mae'r cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynnydd, mewn gwirionedd, o 0.2 y cant o'i gymharu â llynedd.

Felly, y mater i Aelodau yn y fan yma yw na allwch chi gael sicrwydd a phrydlondeb. Felly, naill ai mae'n rhaid inni roi sicrwydd yn gynharach yn y flwyddyn fel sylfaen ac yna ein galluogi i addasu pethau wrth i'r gyllideb newid, neu ein bod yn aros tan yn hwyr iawn yn y flwyddyn i gael sicrwydd llwyr, ac yna nid oes gennych chi amser i gynllunio. Ni allwch chi gael y ddau beth hynny, o gofio sefyllfa Llywodraeth y DU o ran pryd y bydd hi'n cyhoeddi ei chyllideb hithau. Felly, rwy'n credu os byddai'n well gan awdurdodau lleol gael y sicrwydd llwyr yma yn nes ymlaen heb amser i gynllunio, yna mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei drafod, ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n gofyn am fwy o amser i gynllunio gan wybod bod hynny'n golygu bod gennym ni heriau parhaus a dewisiadau anodd i'w gwneud yn ystod hynt y gyllideb. Mae'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog cyllid a minnau yn fwy na pharod i'w drafod gyda nhw wrth inni fwrw ymlaen.

Mae'r setliad yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut i drawsnewid gwasanaethau er mwyn ymateb i anghenion a disgwyliadau sy'n newid neu, pan fo angen, dewis sut i'w lleihau gan geisio cael cefnogaeth y cyhoedd i hynny, yn ogystal â phenderfynu ar y lefel y byddan nhw'n pennu'r dreth gyngor i yn unol â'r dewisiadau hynny. Ac mae'r rheini yn briodol yn faterion ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n credu mai'r rheini yw'r heriau y gall llywodraeth leol yng Nghymru eu cyflawni. Er na fyddwn yn ceisio eu hargyhoeddi nhw na chithau bod hwn yn setliad da, nid yw'n un trychinebus ychwaith, a dylen nhw fod yn gallu gweithio'n dda o fewn y setliad hwn.

Blaenoriaeth y Llywodraeth, a'r hyn fu ei blaenoriaeth erioed, yw diogelu cynghorau rhag y toriadau gwaethaf sy'n cael eu trosglwyddo i ni gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn i'w weld yn y setliad ar gyfer 2019-20 yr wyf wedi'i gyflwyno ichi heddiw. Rydym ni wedi, er gwaethaf y meinciau gyferbyn yn griddfan bob tro y byddaf yn dweud hyn, sicrhau nad yw llywodraeth leol wedi gweld yr ymosodiad ar wasanaethau y mae'r sector llywodraeth leol yn Lloegr wedi ei weld. Rydym ni wedi gweld cyllidebau yn cael eu diogelu mewn ffordd na welwyd dros y ffin. Rydym ni wedi ceisio gweithio ochr yn ochr â llywodraeth leol bob amser i sicrhau ein bod yn gallu, pan fo hynny'n bosib, diogelu gwasanaethau a diogelu'r mwyaf agored i niwed. Byddwn yn parhau i sicrhau o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2019-20 y gall pobl hawlio gostyngiad llawn, a byddwn unwaith eto yn darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn.

Rydym ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu aelwydydd incwm isel ac agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Penderfynir ar y trefniadau ar gyfer 2020-21 yn rhan o'n hystyriaethau ehangach ynghylch sut i wneud y dreth gyngor yn decach, fel y dywedodd Jack Sargeant, rwy'n credu, a nifer o bobl eraill. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyfrifoldebau newydd a, gan gymryd setliad heddiw a'r cyllid grant sydd wedi'i gadarnhau gyda'i gilydd, bydd llywodraeth leol yng Nghymru yn cael bron i £5 biliwn mewn refeniw ar gyfer 2019-20, cynnydd o tua £70 miliwn mewn arian parod o'i gymharu â 2018-19. Mae'r arian ychwanegol yma yn cyfateb i'n blaenoriaethau, sef gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, yn benodol.

Heblaw am y cyllid a gyhoeddwyd trwy ac ochr yn ochr â'r setliad, rydym ni wedi gwneud ymrwymiadau eraill i gefnogi awdurdodau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gyda llywodraeth leol i fwrw ymlaen â chronfa fuddsoddi newydd ym maes tai rhwng safleoedd datblygu ar raddfa fawr. Cyfuniad o gyfalaf a chyfalaf trafodiadau ariannol o hyd at £15 miliwn fydd yn talu am hyn. Byddwn yn cynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cyfalaf o dan fand B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Rydym ni wedi ysgrifennu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Canghellor i alw unwaith eto ar i Lywodraeth y DU ariannu'r costau uwch i gyflogwyr sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau, i ateb cwestiwn Mike Hedges. Nid ydym ni wedi cael ymateb eto, ond rydym ni'n parhau i bwyso am ateb, gan ein bod yn deall yn hollol yr anhawster yn sgil yr ansicrwydd ynghylch costau pensiwn i awdurdodau lleol a chyrff eraill wrth geisio pennu eu cyllidebau yn briodol.

O gofio'r cyfnod ansicr yr ydym ni ynddo ac sydd o'n blaenau, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU, nid oes unrhyw arwydd o ddod â chyni i ben. Rwyf yn ymrwymedig i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu hyblygrwydd pan fo hynny'n bosib. Rydym ni'n ymrwymedig i ystyried sut y gellir grymuso a chryfhau llywodraeth leol yn well. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau i'w helpu i sicrhau bod pob awdurdod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o'r holl adnoddau sydd ar gael iddo.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael ymrwymiad gan awdurdodau lleol i weithio'n rhanbarthol. Mae'n rhaid cael mwy o gydweithio â byrddau iechyd a'r consortia addysg i sicrhau canlyniadau gwell a mwy o gydnerthedd. Mae'n rhaid hefyd ailymrwymo i ysbryd a manylion cylch gorchwyl y gweithgor ar lywodraeth leol. Rwyf yn credu bod y setliad yn adlewyrchu canlyniad rhesymol ar gyfer llywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae wedi ei gyflawni mewn blwyddyn heriol arall unwaith eto, ac mae'n cydnabod ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel addysg a gofal cymdeithasol.

I gloi, fe wnaf i unwaith yn rhagor bwysleisio'r gwaith cadarnhaol ar y fformiwla ddosbarthu gyda Llywodraeth Leol. Cytunir ar y newidiadau blynyddol yn y fformiwla bob blwyddyn, fel y dywedais yn gynharach, rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy'r is-grŵp cyllid. Mae hyn yn golygu ein bod yn hyderus ein bod yn llwyddo i ddarparu'r cyllid sydd ar gael yn deg ac yn ddiduedd. Rwyf i'n sicr yn gresynu at unrhyw awgrym bod yna duedd neu annhegwch bwriadol yn y fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn annheg iawn i'r rhai hynny sy'n bwrw iddi mewn modd mor gadarnhaol i'r gwaith o'i gyflawni.

Hoffwn ychwanegu, hefyd, ein bod wedi parhau i gyhoeddi'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynharach na rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais i, mae hwnnw'n gytundeb â llywodraeth leol i roi cymaint o amser â phosib iddyn nhw gynllunio. Roedd y setliad llywodraeth leol dros dro yng Nghymru, a gyhoeddwyd mwy na dau fis yn gynharach nag yn Lloegr, yn caniatáu ar gyfer y cynllunio terfynol hwnnw. Yn Lloegr, cyhoeddwyd y setliad dros dro dim ond chwe diwrnod cyn ein setliad terfynol ni. Ar y sail yna, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad. Diolch.