Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 16 Ionawr 2019.
Nid yw cwmnïau angori’n llithro, o reidrwydd. Gadewch i ni edrych ar Airbus UK fel enghraifft berffaith. Maent yn dod yn llawer mwy effeithlon, ac mae gan Airbus oddeutu 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn. Mae'n nifer debyg i’r hyn a oedd ganddo chwe blynedd yn ôl, ond yr hyn sydd wedi newid rhwng 2013 a 2019 yw bod y safle wedi dod oddeutu 40 y cant yn fwy effeithlon, a rhaid i hynny ddigwydd; mae'n rhaid cynnal ymgyrch effeithlonrwydd o’r fath ar draws pob busnes os ydynt yn mynd i lwyddo ac ymdrechu yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol—oes ddigideiddio, digido, deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth.
Mae Ford yn bryder mawr, ac yn yr un modd ag y byddaf yn Airbus yfory yn sôn am ganlyniadau a goblygiadau’r hyn sy'n digwydd yn San Steffan gydag arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru, ac yn bennaf gydag Airbus, heddiw roedd y Prif Weinidog yn Ford yn trafod dyfodol y ffatri. Yr hyn sy'n amlwg iawn yw bod y newid yn y sector modurol yn creu heriau enfawr i'r diwydiant modurol byd-eang, ac mae Ford ei hun yn edrych ar gau ffatrïoedd, cael gwared ar linellau cynhyrchu ar safleoedd yn Ffrainc, o bosibl Rwsia, yn yr Almaen. Yma yng Nghymru, yn Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y dywedais ddoe, mae gennym weithlu hynod ddibynadwy, rhaglen waith effeithlon iawn, a chynnyrch, injan Dragon, yr ystyrir ei bod ar flaen y gad yn y diwydiant cynhyrchu motorau tanio mewnol. Nawr, beth sy'n bwysig i’r injan Dragon yw ei bod yn cael ei hystyried ar gyfer ei hybrideiddio ar safle Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Ond mae hefyd yn bwysig i Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr fanteisio ar unrhyw gynnydd yn y galw am injan Dragon fel y mae heddiw, oherwydd rwy’n credu mai chwe chyfleuster yn unig sy'n gallu adeiladu injan o’r fath, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr yn sicr yn un o'r rhai mwyaf effeithlon, os nad y mwyaf effeithlon, gyda gweithlu hynod fedrus a theyrngar. Ochr yn ochr â hynny, bu llawer o ddyfalu ynglŷn â photensial buddsoddiad Ineos, ac unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu'r buddsoddiad hwnnw.
Rhwng y gwaith a wnaethom gyda Ford, gydag Airbus, rwy’n gobeithio bod yr ymagwedd ymyraethol a fabwysiedir gennym pryd bynnag a lle bynnag y bo modd, ac a arweiniodd yr wythnos diwethaf at greu cannoedd o swyddi mewn banc heriol newydd, ac sydd wedi arwain yr wythnos hon at greu'r ganolfan datblygu digidol genedlaethol, yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn aros yn llonydd wrth i’r byd o’i chwmpas droi. Mae'n ymddangos y tu hwnt i reolaeth oherwydd dilema Brexit.